Wedi Tri
Fe fydd 'na dri ymgeisydd i olynu Rhodri. Felly mae'n ymddangos, o leiaf. Go brin y byddai Andrew Davies wedi cyhoeddi y byddai'n "gwneud popeth posib" dros Edwina Hart pe bai hi'n sefyll heb wybod yn iawn ei bod yn bwriadu gwneud hynny.
Rwyf hefyd o'r farn mai sgwarnog yw'r drafodaeth ynghylch gallu Huw Lewis i sicrhau chwech enwebiad. Mae hen bennau'r blaid yn cofio'r niwed i Lafur y tro diwethaf y ceisiwyd ficsio'r arweinyddiaeth. Os ydy Huw un yn brin gallwch ddisgwyl i rhyw un ei enwebu "er chwarae teg" heb addo pleidlais iddo yn yr etholiad.
Carwyn yw'r ceffyl blaen o hyd, fe dybiwn i, ond dyw pethau ddim mor eglur ac oedden nhw yn ystod yr ail gynulliad. Yn sicr mae ei broffeil cyhoeddus llawer yn is nac oedd e.
Pwy y mae'r pleidiau eraill yn ofni felly?
"Huw, heb os" oedd ateb un arweinydd plaid i'r cwestiwn hwnnw heddiw. Wrth gwrs mae 'na'r fath beth a "double bluff"!
SylwadauAnfon sylw
Efallai y dylset wedi gofyn pwy fyddent yn ei hoffi a phwy na fyddent yn ei hoffi i weld os y byddai'r ateb yn wahanol ?