Wedi Saith
Mae'r cloc yn tician.
Yng Nghyfarfod y Pwyllgor Busnes y bore 'ma penderfynwyd peidio caniatáu dadl ynghylch cyfieithu'r cofnod yn y cynulliad yr wythnos hon.
Ydy hynny'n newyddion da i'r Llywydd? Nac ydy.
Fe wnaeth cynrychiolwyr y pedair plaid hi'n gwbwl eglur y bydd 'na ddadl wythnos nesaf os nad yw'r Comisiwn wedi ildio erbyn hynny.
Mewn cynhadledd newyddion dywedodd Nick Bourne fod y Ceidwadwyr yn unfrydol ynghylch y pwnc. Roedd y cyfieithiad dros nos yn fater o egwyddor, meddai, gan ychwanegu bod hi'n bryd i aelodau'r comisiwn gofio eu bod yn weision i'r Cynulliad ac nid yn feistri arno. Nid y Torïaid yw'r unig rai sy'n credu hynny.
Yn ôl Kirsty Williams mae'n bryd edrych ar yr holl berthynas rhwng y Comisiwn a'r Cynulliad. Nid hwn yw'r tro cyntaf, meddai, i'r Comisiwn weithredu heb ymgynghori a'r aelodau.
Saith... Chwech... Pump... Pedwar...