91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dirgelwch

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

adam_price.jpgMae'n anodd cysylltu â phobol Plaid Cymru am ryw reswm. Tybed pam.

Dyma pam. Mae Adam Price yn gadael y senedd pan ddaw'r etholiad cyffredinol. Mae e wedi derbyn ysgoloriaeth Fulbright i fynd i'r Unol Daleithiau am flwyddyn.

Castell Nedd yn 2011? Does dim newydd pellach hyd yma ond dyw "blwyddyn allan" ddim yn gwenud hynny'n amhosib.

Roedd hon yn stori egliwsif i'r blog... am ychydig eiliadau!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:24 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Hmmmm - Ymgeisydd Seneddol PC yn Nwyrain Caerfyrddin ????

  • 2. Am 14:26 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Defis:

    Er bod hon yn swnio fel siocar i gychwyn, mae'n siŵr gen i mai dyma'r ffordd daclusaf i Adam Price ddod i'r Cynulliad. Dim gorfodi is-etholiad yn Nwyrain Caerfyrddin, a dim gorfod wynebu'r peth anodd o ymgyrchu yng Nghastell Nedd tra'n AS ar sedd wahanol.

    Hefyd mi fydd cyfnod o fod ar wahân i wleidydda bob-dydd, heb sgrwtini a gorfod gwneud sylw ar bob manylyn polisi, yn lles i Adam wrth iddo ddychwelyd i fod yn Brif Weinidog ar Gymru led-annibynnol. Gallwn gymryd y bydd yn dychwelyd â thraethawd neu gorpws sylweddol o waith, ac rwy'n fodlon mentro rŵan y mai yng ngoleuni'r gwaith hwnnw y byddir yn darllen gwleidyddiaeth yr ugain mlynedd ar ôl 2011 yng Nghymru. Does dim manylion am destun eto?

    Difyr sylwi bod y Western Mail wedi cychwyn ei alw'n 'firebrand Adam Price' yn ddiweddar - cyfnod fel academydd ydi'r ateb perffaith i hynny!

  • 3. Am 15:18 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Gwilym Euros Roberts:

    Llongyfarchiadau am y sgwp Vaughan!
    Newyddion diddorol...yn sicr yn golled i Gymru yn San Steffan, mae Adam yn amlwg yn wr galluog ac mae'n un o asedau Plaid Cymru. Diddorol fydd gweld pwy fydd yn sefyll yn ei le. Dioddrol mwy byth fydd gweld lle bydd Adam yn sefyll ar gyfer yr Etholiadau Cynulliad yn 2011 os a phan ddaw o'n ei ol o'i astudiaethau yn yr UDA.
    Pob lwc iddo efo'i astudiaethau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.