Arcadia
Mae'r hen le wedi newid eitha tipyn gyda safle'r Arcadia bellach yn gartref i arena fodern Venue Cymru. Serch hynny wrth iddo anerch y gynhadledd y prynhawn yma fe fydd Ieuan Wyn Jones yn sefyll ym mron union yr un fan a David Steel pan ddywedodd yntau wrth ei blaid i "fynd adref i'w hetholaethau a pharatoi i lywodraethu".
Mae'n anhebyg y bydd Ieuan yn gallu ysbrydoli'r cynrychiolwyr i'r un graddau ond mae ganddo un fantais. Yn gefndir i'r arweinydd Rhyddfrydol roedd poster moel yn hysbysebu "Liberal News". Yn gefndir i Ieuan fe fydd criw o aelodau mwyaf trwsiadus y blaid- y "beautiful people" fel maen nhw'n cael eu galw. Fe fydd 'na losin i'r llygad felly hyd yn oed os nad oes 'na falm i'r glust!
Ai presenoldeb cymaint o gryts trwsiadus wnaeth berswadio un aelod blaenllaw o'r blaid i awgrymmu ei bod hi'n bryd ychwanegu adran "Cymru H" at "Cymru X"? Nid dros "hardd" yr oedd yr H yna'n sefyll gyda llaw!
Cofiwch mae 'na un "faux pas" ffasiwn- crysau pinc llachar y stiwardiaid! Rwy'n casglu eu bod wedi gwingo o'u gweld!