Pethau peryg
Peth peryg yw'r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yma. Efallai dylai rhywun rybuddio Syr Emyr!
Mae Llafur Cymru wedi dod ar draws y sylw yma ar dudalen "Facebook" Glenn Broadbent ymgeisydd Ceidwadol mewn isetholiad cyngor yn swydd Efrog.
"Proud to be English and sick of paying tax to support lazy people, imported spongers and subsidising the Scots and Welsh."
Efallai y dylen ni gyflwyno gwobr ddyddiol am ddweud pethau hurt ar wefannau. Gwobr Goffa Levi Johnson efallai?
SylwadauAnfon sylw
Mae gan Levi Johnston datŵ ar ei fys sy'n dweud "Bristol." (https://tinyurl.com/6r5879) Rhaid credu y bydd y math o beth yn boblogaidd iawn ymhlith preswylwyr "classy" Bryste.