Ffeit!
Dw i'n cymryd y bydd bron pawb sy'n darllen y Blog yn gyfarwydd erbyn hyn a gwefan Cymraeg newydd y . Does dim angen dweud bod hwn yn ddatblygiad i'w groesawi. Yr hyn sy'n ddiddorol yw cymhellion y cwmni.
Fe wnaeth y Daily Post gais aflwyddiannus am yr arian a gynigiwyd i hybu'r wasg Gymraeg yn sgil y ffrwgwd ynghylch "Y Byd". Cwmni oedd yn llwyddiannus, wrth gwrs, gan dderbyn addewid o £600,000 o bunnau dros dair blynedd.
Pam felly bod Trinity Mirror y Gogledd wedi penderfynu bwrw ymlaen a'r cynlluniau ar ei liwt ei hun? Dw i ddim yn meddwl bod angen bod yn arbenigwr ar fusnes na newyddiaduraeth i ganfod yr ateb. Bwriad syml y cwmni yw curo ymdrechion Golwg yn rhacs o safbwynt y defnydd o'r safle. O wneud hynny fe fyddai'r cwmni mewn sefyllfa gref i gystadlu yn erbyn Golwg am gymhorthdal ymhen tair blynedd neu i ofyn am gymhorthdal ychwanegol at yr hyn y mae Golwg yn cael cyn hynny.
Beth yw canlyniad hyn oll? Wel, am y tro cyntaf ers dyddiau "Y Dydd" a "Heddiw", "Y Cymro" a "Banner ac Amserau Cymru" fe fydd 'na gystadleuaeth go iawn ym myd newyddiaduraeth Cymraeg- ac mae hynny'n gythraul o beth da. Os na chyflawnodd "Y Byd" unrhyw beth arall roedd hwn yn rhywbeth oedd yn werth ei gyflawni.
Pwy sy'n debyg o ennill y frwydr felly? Am resymau amlwg fe wnâi eithrio "Cymru'r Byd" o'r ddadl- ond peidied neb a meddwl na fyddwn ni yn fan hyn yn cwffio'n galed!
Mantais fawr y Daily Post yw'r nifer sylweddol iawn o Gymry Gymraeg sy'n ymweld â gwefan Saesneg y papur. Mae'n haws perswadio rhywun i glicio trwodd i'r safle Cymraeg nac yw e i ddenu darllenwyr i safle newydd.
Ar y llaw arall mae gan Golwg dwy fantais. Yn gyntaf fe fydd y gwasanaeth yn un cenedlaethol. Fe fyddai' sefyllfa'r Daily Post yn gryfach pe bai'r Western Mail yn rhan o'r arbrawf ond mae anallu dau is-gwmni Cymreig Trinity Mirror i gydweithio yn ddiarhebol.
Mantais arail Golwg yw y bydd y cynnwys yn unigryw. Ar hyn o bryd cyfieithiad yw safle'r Daily Post yn y bôn. Hyd y gwelai i, dyw e ddim hyd yn oed yn cynnwys erthyglau unigryw Gymraeg atodiad "Yr Herald". Gallai hynny newid, wrth gwrs, ac mae angen hynny. Mae profiad "Cymru'r Byd" yn awgrymu bod 'na lawer mwy o ddarllen ar straeon ac erthyglau nad ydynt ar gael ar wefan Saesneg 91Èȱ¬ Cymru nac ar y rheiny sydd ar gael yn y ddwy iaith.
I ofyn y cwestiwn eto- pwy sy'n debyg o ennill? Yr ateb i hynny, greda i, yw pob un ohonom sy'n darllen a defnyddio'r Gymraeg.
SylwadauAnfon sylw
Ar ol colli £500 mewn buddsoddiad yn Y BYD dwi'n falch o glywed y bydd yna gystadlu rhwng y DP neu gobeithio yr Herald a Golwg, er fy mod i'n darllen Golwg yn eitha aml dydy o ddim at fy nant i, storiau arwynebol a gormod am y celfyddydau. Be dwi isio ydy rywbeth fel Barn yn wythnosol. A diolch hefyd i'm cyd Gymru a fethodd gefnogi papur dyddiol Cymraeg ag a gostiodd for ddrud i'r cannoedd ohonom oedd gan hunan barch a hunan hyder i gefnogi y fenter yma!!!