91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dilyn Betty

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Iau, 11 Medi 2008

Mae penderfyniad Betty Williams i beidio sefyll yn etholaeth newydd Aberconwy yn gwbwl dealladwy. Pam ar y ddaear ddylai hi gynnig ei hun fel rhyw fath o aberth wleidyddol mewn sedd sydd i bob pwrpas yn amhosib ei hennill i Lafur y tro nesaf?

Problem Llafur yn fan hyn wrth gwrs yw'r ffaith bod ffiniau hen sedd Conwy wedi newid yn ogysal a'r enw. Gyda Bangor a Dyffryn Ogwen wedi diflannu o'r etholaeth a Nant Conwy wedi ei ychwanegu does dim gobaith caneri i Lafur ei hennill yn yr hinsawdd bresennol.

Yn 2005 yn hen etholaeth Conwy roedd gan Betty fwyafrif digon parchus o bron i ddeg y cant. Dyma'r canlyniad llawn;

Llafur 12479 (37.1%)
Ceidwadwyr 9398 (27.9%)
Dem. Rhydd. 6723 (20%)
Plaid Cymru: 3730 (11.1%)

Mwyafrif 3081 (9.2%)

Ond beth fyddai wedi digwydd pe bai'r ffiniau newydd yn bodoli bryd hynny? Mae'r academyddion wedi bod wrthi'n analeiddio a'u barn nhw yw y byddai Betty wedi ennill- ond dim ond o drwch blewyn. Dyma eu hamcangyfrif.

Llafur 9119 (31.5%)
Ceidwadwyr 8875 (30.6%)
Dem. Rhydd. 5733 (19.8%)
Plaid Cymru 4186 (14.4%)

Mwyafrif: 243 (0.8%)

Os ydy'r academyddion yn gywir fe fyddai hynny yn gosod Aberconwy yn bumed ar restr dargedi'r Ceidwadwyr. Dyw hynny ddim yn lle cyffyrddus i Aelod Seneddol fod. Ond mae angen gair o rybudd yn fan hyn.

Er ein bod ni newyddiadurwyr i gyd yn eu defnyddio nhw mae'r amcangyfrifon academaidd yma yn llawer llai dibynadwy yng Nghymru nac yn Lloegr. Y rheswm am hynny yw eu bod wedi ei seilio'n rhannol ar ganlyniadau etholiadau cyngor ac mae presenoldeb nifer sylweddol o ymgeiswyr annibynnol mewn ardal fel Aberconwy yn cymylu'r dystiolaeth honno.

Yn ffodus man na ddarn bach arall o wybodaeth ar gael. Fe ddefnyddiwyd y ffiniau newydd yn etholiad y cynulliad llynedd. Hwn oedd y canlyniad bryd hynny.

Plaid Cymru 7,983 (38.6%)
Ceidwadwyr 6,290 (30.4%)
Llafur 4,508 (21.8%)
Dem. Rhydd. 1,918 (9.3%)

Mwyafrif 1693 (8.2%)

Mae hynny'n ganlyniad gwahanol iawn i'r amcangyfrif ond mae 'na resymau da dros hynny. Yn gyntaf mae'n werth nodi bod canran pleidlais y Ceidwadwyr yn debyg iawn yn yr amcangyfrif ac yng nghanlyniad y cynulliad. Y gwahaniaeth yw bod canran Plaid Cymru llawer yn uwch a chanlyniadau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol llawer yn is yn 2007. Mae hynny'n rhannol oherwydd safon yr ymgeiswyr ond mae 'na ffactor bwysig arall. Mae ymchwil Richard Wyn a'i griw yn Aber wedi dangos bod pobol sydd wedi eu geni yng Nghymru yn llawer tebycach o bleidleisio yn etholiadau cynulliad nac yw pobol sydd wedi symud i mewn. Mae hynny'n ffactor arbennig o bwysig ar arfordir y gogledd er bod angen nodi bod y canran wnaeth bleidleisio yn Aberconwy yn 2007 (46.9%) yn barchus iawn

Beth yr argoelion felly? Wel, yn yr hinsawdd bresennol mae'n anodd dychmygu unrhyw un ar wahân i Guto Bebb yn cynrychioli Aberconwy yn y senedd ar ôl yr etholiad nesaf.

Serch hynny gallai ymddeoliad Betty wneud hi'n haws i wasgu'r bleidlais Lafur yn dactegol- ond pwy sy'n debyg o wneud hynny? Fel deiliaid sedd y cynulliad mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref ond mae'n werth cofio bod hen etholaeth Conwy ar frig rhestr targedau'r Democratiaid Rhyddfrydol am flynyddoedd.

Yn y pendraw dw i'n amau y bydd etholiadau seneddol yn Aberconwy yn datblygu i fod yn frwydrau rhwng y Torïaid a Phlaid Cymru- ond mae'n bosib y bydd angen mwy nac un etholiad cyffredinol i'r patrwm dod i'r amlwg.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:54 ar 11 Medi 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Rhaid cofio pwy ydy ymgeisydd y Blaid yn Aberconwy, y Cyngh Phil Edwards a enillodd sedd yn Llandrillo yn Rhos (sef ardal seisnegaidd dros ben), os ellith o enill fan yno paid a synnu os enillith o Aberconwy hefyd.

  • 2. Am 11:02 ar 12 Medi 2008, ysgrifennodd Dr. David Craik :

    Rhaid i ni gofio mae gan Betty Williams gefnogaeth bersonaol hefyd. Mae hi wedi dangos ei hyn fel wleidyddes oedd yn paraod i ymdrechu a frwydro dros yr achos sosialaidd ac am pobl o dan anfantais.

    Mae Betty hefyd wedi gwiethiop'n galed dros y flynyddoedd i gadarnhau y pledlais llafur ac wedi bod yn enghraifft i ymgeiswyr a swyddogion Llafur dros Ogledd Cymru.

    Mae Betty wedi ymddangos fod pleidleiswyr Cymry Cymraeg yn dal i dderbyn apel ymgeiswyr Llafur sosialaidd.

    Paid a byth credu'n siml fydd Llafur yn colli yng Nghonwy yn 2010. Gwele'e cynlyniadau yn Sir Fon 2001 a 2005.

    Na fydd hyn yn diwedd ar gyrfa wleidyddol Betty Williams.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.