91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Curo'r Consensws

Vaughan Roderick | 15:04, Dydd Mercher, 10 Medi 2008

Am unwaith dyw Google (na Cuil o ran hynny) ddim yn gallu helpu. Dw i wedi bod yn ceisio canfod tarddiad dyfyniad sy'n crynhoi problem sylfaenol y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi methu'n llwyr. Os oeddwn yn gwbwl ddigywilydd fe fyswn yn esgus mai fi fy hun wnaeth feddwl am y peth.

Ta beth, dywedodd rhyw un, rhyw bryd "The Liberals problem is that everone has voted for the once but nobody has voted for them twice". Mae hynny'n gor-ddweud wrth reswm ond mae 'na wirionedd sylfaenol yn y sylw.

Problem fawr plaid y canol ers dyddiau Lloyd George yw nad oes ganddi hi bleidlais graidd sylweddol. Mae'n blaid sy'n gorfod brwydro am bob pleidlais a phob sedd. Mae gan y pleidiau eraill etholaethau lle fyddai unrhyw ffŵl yn cael ei ethol pe bai'n gwisgo'r lliwiau cywir- mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gorfod cwffio'n galed i gael eu pobol i mewn- boed y rheiny'n ffyliaid neu beidio!

O bryd i gilydd mae ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol wedi cwyno fy mod yn llawdrwm wrth feirniadu'r ffordd y mae'r blaid yn ymgyrchu. Dydw i ddim am ail-dorri hen gŵys ond fe ddywedai hyn. Dydw i erioed wedi darllen unrhyw beth mor sinigaidd a diegwyddor a'r llawlyfrau etholiadol a gyhoeddir gan Gymdeithas Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol. Dim ond aelodau'r blaid sydd i fod i'w gweld nhw. Twff. Mae'r cyfan ynddynt- sut i gamddefnyddio ystadegau etholiadol, yr holl nonsens "ras dau geffyl" yna, sut mae cyfiawnhau disgrifio rhyw un fel "local campaigner" pam does ganddyn nhw nemor ddim cysylltiad â'r ardal ayb, ayb.

Nawr dyw hynny ddim yn golygu nad oes gan Democratiaid Rhyddfrydol egwyddorion. Mae gan y blaid athroniaeth gadarn a gwerthoedd hawdd eu hedmygu ynglŷn â hawliau sifil a rhyddid yr unigolyn ond nid ar rheiny y mae'r blaid yn seilio'i hymgyrchoedd. Yn ddieithriad bron sylfaen ymgyrchoedd y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r honiad eu bod rhyw sut yn fwy "lleol" na'r pleidiau eraill ac mai dim ond nhw sy'n gallu trechu Plaid A/Plaid B yn yr etholaeth neu'r ward honno.

Mae Kirsty Williams, yr ymgeisydd cyntaf i gyhoeddi ei bod am sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Gymreig yn deall y broblem. Mewn araith drawiadol flwyddyn yn ôl fe ddywedodd Kirsty hyn;

It seems to be popular journalistic shorthand these days to ask what the Liberal Democrats, and the Welsh Liberal Democrats are for? It is not a question that engages me. I have always known. But perhaps we need to remind the people of Wales. To recall the great reforms of the forgotten past. To recall what politics used to be, and what it could be again. Somewhere along the way we lost the... brand. The tenant farmers know what Liberals stood for. They knew that my predecessors understood their problems. We had a brand then, I'm not sure we have that any more.

Gellir darllen y ddarlith gyfan yn ac mae'n werth gwneud. Neges Kirsty oedd bod yn rhaid i'r blaid wahaniaethu ei hun o'r hyn mae'n galw "the gloopy grey consensus that Welsh Politics has become".

Digon teg. Ond mae 'na broblem. Yn ei haraith mae Kirsty yn honni bod y Cymry yn genedl ryddfrydol- mai gwerthoedd rhyddfrydol yw gwerthoedd y mwyafrif ohonom. Mae 'na wirionedd yn hynny- plaid ryddfrydol yw Plaid Cymru i bob pwrpas ac mae rhyddfrydiaeth yn rhan o DNA nifer o aelodau Llafur Cymru a rhai o'r Ceidwadwyr hefyd.

Edrychwch ar y cynulliad ac anghofiwch y ffiniau pleidiol. Beth, mewn gwirionedd sy'n gwahaniaethu David Melding a Jane Davidson o safbwynt eu gwerthoedd sylfaenol, neu Gareth Jones a Mike German o ran hynny?

Os ydy Kirsty'n gywir bod 'na ormod o gonsensws yn y Bae gellir dadlau mai consensws rhyddfrydol yw hwnnw. Edrychwch ar gytundebau "Cymru'n Un" a "Chymru Gyfan". Beth yw eu hanfodion? Gwasanaethau cyhoeddus cryf. Amddiffyn a hybu buddiannau lleiafrifoedd. Brwydro yn erbyn tlodi ac angen. Mae'r rheiny i gyd yn werthoedd y byddai Lloyd George yn eu harddel.

Dyma'r cwestiwn felly. Sut ar y ddaear y gall plaid rhyddfrydol wahaniaethu ei hun o gonsensws rhyddfrydol?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.