Siop Rithwir Jack Brown- Aberconwy
Mae'n bryd i ni agor ein siop fwcis. Roeddwn yn bwriadau cychwyn gyda phrisiau etholaeth ynysig yn y gogledd-orllewin. Yn anffodus dwi o hyd yn ceisio darganfod sut mae cael to bach ar type-pad (helpwch fi, bobol). Dyma brisiau Aberconwy yn lle.
Plaid Cymru 6-4
Ceidwadwyr 7-4
Llafur 7-4
Dem. Rhydd. 25-1
Sylw Karl Williams; "Dwi'n meddwl mai Plaid Cymru aiff a hon oherwydd cryfder ei hymgeisydd a ffrae Ysbyty Llandudno. Mae'r newid ffiniau yn hynod o anffafriol i Lafur a does gan Denise fawr o fwyafrif fel mae pethau"
O ystyried y prisiau ar bwy ma'ch fiver chi? Gyda llaw os oes na flogiwr Saesneg yn dymuno ail-gynhyrchu'r prisiau mae croeso i chi wneud. Os oes na ddigon o "fetio" fe fydd Karl yn addasu'r "odds".
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n tueddu i gytuno mai PC fydd yn ennill yma - ond go brin bod gobeithion y Toriaid a Llafur o ddod yn ail yn gyfartal. Bydd y Toriaid yn gyfforddus o flaen Llafur.
Dw'i'n copio a pastio'r to bach oddi wrth
Diolch! Vaughan
Sut wyt ti'n cael to bach fel arfer ta? Dwi'n defnyddio '' gan gwmni Draig Technology, mae am ddim i'w lawrlwytho ac yn - ta ta i 'copi & paste', neu 'insert symbol'
Ynglyn â sylwadau
Byddwn i'n awgrymu dy fod yn creu sylw newydd dy hun wrth ymateb i sylw rhywun arall, yn hytrach nag editio eu sylw nhw. Efallai byddai eraill yn dweud yn wahanol.
Diolch Rhys. Mae meddalwedd CPS sy'n cael ei defnyddio ar gyfer popeth ar safle'r 91Èȱ¬ ac eithrio blogs yn cynnig to bach trwy Ctrl h. Yr hyn oeddwn yn ceisio osgoi oedd gorfod sgwennu yn word a wedyn torri a phastio. Dwy'n meddwl fy mod ar y ffordd i ddatrus y broblem.
Dwy'n derbyn y pwynt am ymateb i negeseuon
Dyma £10 rhithiol ar Blaid Cymru gennyf fi.
Roeddwn mewn tÅ· tafarn yn un o bentrefi Seisnicaf yr etholaeth ddoe ac yn synnu faint o gefnogaeth mae'r Blaid yn cael ymysg y mewnfudwyr a'r di Gymraeg.
Diolch am dy ffydd, Vaughan !!
Cawn ni weld ar y diwrnod, wrth gwrs.
Nid fi sy'n gwneud yr "odds", Dylan ond Karl Williams gynt o Jack Brown. Ond mae na rith-farchnad yn fan hyn. Fel economegydd fe ddylet ti wybod y gallai'r prisiau newid pe bai ti'n fentro ychydig o rith-bunnau ar dy hun!
Dyma dip Euron ar gyfer y "Grand National" heddiw, fel teyrnged i'r pleidiau eraill. Enw'r ceffyl yw...
"IDLE TALK" :-)
Euron Hughes
Dem Rhydd Aberconwy
Dwy'n dibynnu arnot ti Euron! Dwy'n rhoi tenner arni.
Copio a gludo
â ê î ô û ŵ ŷ
Â Ê Î Ô Û Ŵ Ŷ
Defnyddiwch UTF-8 fel y blog 'ma.