Sibrydion a spin
Un o fanteision blog yw cael ail-adrodd rhai o'r sibrydion a'r spin y mae dyn yn clywed gan y pleidiau a rhoi cyfle i bobol eraill dweud eu dweud amdanyn nhw.
Beth wnewch chi o hon? Dwi wedi clywed o Geidwadwyr ac Phleidwyr fel eu gilydd y gallai Llafur ddod yn drydydd yn Ngorllewin Clwyd ac yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro...heb son am Aberconwy.
Yr ymateb Llafur i hyn yw bod "Christine yn hyderus iawn" a bod "Alun yn gweithio'n rhyfeddol o galed".
Pwy sy'n iawn?
SylwadauAnfon sylw
Mae unrhyw beth yn bosib yn y seddi tair ffordd ma, ac yn ddibynnol iawn ar beirianwaith bob plaid. Mae hwn yn enwedig un wir yng Nghorllewin Clwyd, gan gofio ond ryw 1000 o bleidleisiau roedd rhwng cyntaf a thrydydd yn 1999.
Dim ond mater o amser cyn i rywun awgrymu bod Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn amlwg yn cydwiethio i greu'r spin ma...
Un peth sy'n sicr mae Jones bydd yn y trydydd safle yn Aberconwy (a'r ail a'r cyntaf)
Mae'n sicr fwy neu lai mai trydydd go sal fydd Llafur yn Aberconwy.
Mae eu pleidlais yn gryfach yng Ngorllewin Clwyd, ac mae'n bosibl y caiff Alun Pugh ei ail ethol os ydi'r Blaid a'r Ceidwadwyr yn agos iawn at ei gilydd - ond dydw i ddim yn meddwl a bod yn onest - mae Llafur yn debygol o golli. Yn ol y son 'dydi Alun ei hun ddim yn obeithiol iawn.