Ron, Wrecsam a'r BNP
Dwi'n ei heglu hi am y bae eto'r bore 'ma ar gyfer Cynhadledd Newyddion ymgyrch annibynnol/Cymru Ymlaen Ron Davies a John Marek. Mae Wrecsam a Chaerffili yn ddwy o'r seddi y byddwn yn gwylio'n agos ar noson y cyfri.
Wrecsam yw gobaith gorau Llafur o gipio sedd a gallai Caerffili fynd i un i dri chyfeiriad. Mae yn tynnu sylw at bwysigrwydd y bleidlais Bwylaidd yn Wrecsam ac yn sicr gallai hynny fod yn ffactor yno. Ond mae 'na beryg y bydd presenoldeb y newydd-ddyfodiaid o ddwyrain Ewrop yn effeithio ar yr etholiadau mewn ffordd wahanol.
O fy mlaen mae taflenni etholiadol y BNP yn nwy o ranbarthau etholiadol y cynulliad. Mae'r ddwy yn cychwyn â'r un neges "Angry about the flood of Eastern European labour driving down wages, putting Welsh workers on the dole, pricing youngsters out of rented homes and breaking up our communities? ...."
Mae hon yn darged hawdd i'r BNP wrth gwrs. Mae ymosod ar newydd-ddyfodiaid gwyn eu croen yn ymddangos yn llai hiliol nac ymosod ar bobol ddu neu Fwslemiaid. Serch hynny'r un yw y ragfarn sy'n cael ei bwydo.
Dyw e ddim yn amhosib y bydd y BNP yn ennill seddi yn y cynulliad yn yr etholiad hwn. Gallai deg mil o bleidleisiau mewn rhanbarth fod yn ddigon. Mae hyn yn achosi problem i'r pleidiau eraill a grwpiau pwyso. Beth sydd orau, anwybyddu'r BNP a gobeithio am y gorau, neu ddadlau yn ei herbyn gyda'r peryg o fwydo'r bwystfil?
SylwadauAnfon sylw
Efallai gall presenoldeb Ron Davies fod o fantais i PC yng Nghaerffili, od wi ddim yn meddwl gwnaiff ddenu cymaint a hynny o bleidleisiau
Mi rwyt yn cyfaddef bod perygl y bydd y BNP yn ennill seddi yn y cynulliad. Pam? Oherwydd fod 'na lawer o bobl yn ein gwlad sydd ddim yn cytuno gyda'r mewnlifiad anferthol o ddwyrain Ewrop a dim ond y BNP sydd yn fodlon siarad yn ei erbyn. A dwi ddim yn cytuno gydag hyn (y mewnlifiad) ychwaith! Er dwi ddim yn golygu pleidleiso i'r BNP, gan bod elfennau tywyll iawn yn ei rhengoedd, dwi'n gallu deall pam fod lot o bobl yn gweld ynddynt lloches i'w pleidlais tra fod yr holl bleidiau arall fel eu gilydd yn dweud dim.
D Thomas,
Mae dy bwynt yn gwbwl deg. Wrth gwrs bod trafod lefelau mewnfudo yn ddadl wleidyddol ddigon parchus ac yn sicr mae yna duedd i'r pleidiau sefydliedig gwthio'r pwnc hwn (sydd yn poeni llawer o bobol) i'r naill ochor. Ar y llaw arall mae mewnfudo yn fater, byswn i yn tybio, sy'n fwy perthnasol mewn Etholiad Cyffredinol neu Etholiad Ewropiaidd.
Ie digon teg Vaughan. Ond mi elli di ddweud hynny am nifer o faterion eraill hefyd gan gynnwys Irac. Mi fydd pwnc Irac yn uchel iawn o ran bwysigrwydd i lawer o bleidleiswyr eleni rwy'n siwr er na fod gan y cynulliad unrhyw bwer yn y mater hyn. Yr un peth gyda'r mewnlifiad. Dwi wedi clywed sawl un yn dweud eu bod am genfogi'r BNP....am reswm y mewnlifiad. Pobl sy'n gweithio mewn ffatrioedd. Mae gennyf ffrind sy'n Bwyliad ac yn byw yng Nhaerfyrddin. Mi roedd e'n dweud wrthyf fod y croeso a gafodd pan ddaeth yma gyntaf tua dwy flynedd yn ol wedi bron a mynd yn gyfan gybwl. Trueni....ond dyna ni....Mi geith gwleidyddion y prif bleidiau sioc ryw ddydd.