Mae rhywbeth yn drewi yn fan hyn
Wythnos diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau arolwg barn NOP/ITV Cymru. Ar sail y wybodaeth a ryddhawyd gan ITV fe wnaethon ni a chyfryngau eraill ddarogan bod Plaid Cymru wedi gostwng i'r trydydd safle y tu ol i'r Ceidwadwyr. Roedd yr honiad yna'n seiliedig ar ganrannau pleidleisio a gyhoeddwyd gan ITV a darogan yr arbenigwr gwleidyddol a gyflogir gan ITV, Dr Denis Balsom.
Fe wnes i gyfeirio at y canlyniadau ar "Wales Today" a "Newyddion". Doeddwn i ddim wedi gweld yr ystadegau crai ond roeddwn yn fodlon ymddiried yn arbenigedd newyddiadurwyr ITV a phrofiad hir Dr Balsom.
Dydd Llun ymddangosodd yr ymddiheuriad rhyfeddyn y Western Mail
"In our analysis of an NOP opinion poll for ITV Wales on voting intention at the National Assembly election, we incorrectly suggested that a predicted 3.5% swing from Labour to the Conservatives would result in a Conservative gain from Labour at Carmarthen West and Pembrokeshire South. In fact, the seat would be won by Plaid Cymru"
Hwn oedd yr awgrym cyntaf ces i fod yna bethau rhyfedd yn mynd ymlaen.
Bellach dwi wedi llwyddo i weld rhai o ystaegau crai yr arolwg (peidiwch gofyn sut).
Wrth drafod eu pleidleisiau etholaethol (y bleidlais gyntaf) fe ddywedodd 182 o bobol wrth NOP eu bod yn bwriadu pleidlesio i Blaid Cymru. Fe ddywedodd 180 eu bod yn bwriadu pleidleisio i'r Ceidwadwyr. Hynny yw roedd mwy o bobol yn bwriadu pleidleisio i Blaid Cymru nac i'r Ceidwadwyr.
Dim ond trwy gyfyngu'r sampl i'r rheiny sy'n gwbwl sicr o bleidleiso y gellir cael canlyniad sy'n gosod y Ceidwadwyr yn yr ail safle.
Dyw gwneud hynny ddim yn anghywir nac, yn wir, yn anarferol. Ond lle mae yna ddau gasgliad o ystadegau sy'n gwthddweud ei gilydd ynglyn â phwnc mor allweddol â phwy sydd yn ail, oni ddylid cyhoeddi'r ddau? Yn sicr dyna y byddwn i wedi ei wneud. Dwi'n meddwl bod gan Blaid Cymru le i gredu eu bod wedi cael cam.
SylwadauAnfon sylw
Mae hyn yn sicr yn ddadansoddiad dadleuol o'r pol piniwn. Galle'r ddau blaid honni eu bod yn ail safle, neu 3 plaid yn gydradd gyntaf yn ol y pol (o gofio amrywiaeth o 3% o ran canran y bleidlais).
Ar bwynt arall - dwi'n amau Vaughan fod pobl yn amheus o adael neges ar dy flog achos eu bod yn amau y bydd y 91Èȱ¬ yn cael cip i weld pwy yw'r enwau tu ol y ffugenwau ac yn gallu defnyddio hynny yn eu herbyn petai'r 91Èȱ¬ am wneud hynny. Ydi rhywun yn gallu gadael ffugenw ac a wyt ti'n checio'r cyfeiriadau ebost?
Nid amau, jyst holi?
Mae hyn yn sicr yn newyddion ac dadleuol iawn ac yn adlewyrchu'n wael ar ITV. Mewn gwirionedd, fel dywed dy fwci (un 'f' nid dwy sylwer), mae'r 3 blaid mor agos fel eu bod i gyd o ran darogan yn gallu honni fod yn gydradd gyntaf.
Ar bwnc gwahanol. Dwi'n amau Vaughan fod pobl yn gyndyn i adael neges ar dy flog. Efallai fod hynny'n rhannol achos nad ydynt yn siwr a cánt roi ffugenw ac yn fwy penodol a yw'r 91Èȱ¬ yn checio cyfeiriadau ebyst pobl ac yna á'r gallu i'w ddefnyddio. Mewn gwlad mor fach á Chymru, mae hyn yn gonsyrn ... yn enwedig os oes canran uchel o dy ddarllenwyr yn gweithio i'r sector gyhoeddus.
Nid amau, jyst holi.
Sion,
Mae dy ail bwynt yn gwbwl ddilys ond dwy rhwng ddau fyd yn fan hyn. Am yr union reswm wyt ti'n crybwyll dwy wedi mynnu mai dim ond fi a Ruth Thomas, head honcho Cymru'r Byd sy'n cael modereiddio sylwadau a thrwy hynny gweld y cyfeiriadau.
Y broblem yw bod hynny yn golygu bod na adegau lle mae'n oriau cyn i sylwadau ymddangos. Dwy wedi ail-bostio ambell i stori ar faes-e os ydy Ruth a finne i ffwrdd er mwyn i bobol cael ymateb. Mae pobol Maes-e yn gofyn (yn gwbwl resymol) pam y dylen nhw foderieiddio ar ran y 91Èȱ¬.
Yr ateb wrth gwrs yw caniatau ymatebion di-enw (wedi eu modereiddio). Dwy'n brwydro dros hynny.
Dim angen poeni am gael eich adnabod. Jyst rhowch cyfeiriad ffug yn yr e-bost... fel mickeymouse@hotmail.com
Ond Mickey, byswn i fyth yn cwympo am rhywbeth fel 'na!