Mae hwn yn un newydd!
Roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld pob un tric neu dacteg etholiadol erbyn hyn ond mae hwn yn un newydd i mi.
Y prynhawn ma fe wnaethom ni dderbyn llythyr gartref wedi ei law-ddelifro ac wedi ei gyfeiro at fy mhartner. Llythyr oedd hwn gan grwp o'r enw "Muslims for Plaid" yn esbonio safbwyntiau Plaid Cymru ynglyn â phynciau o bwys i Foslemiaid.
Dwi'n cymryd bod cefnogwyr Plaid naill ai wedi cael rhestr aelodaeth y Mosg neu eu bod yn mynd trwy'r rhestr etholiadol yn chwilio am enwau Moslemaidd. Clyfar.
SylwadauAnfon sylw
'Dwi ddim yn gwybod pam mor newydd a dweud y gwir.
Mae pleidiau wedi bod yn cynhyrchu deunydd ar gyfer grwpiau arbennig o fewn cymdeithas - ffermwyr er enghraifft - ers talwm.
Mae'n debyg bod defnyddio'r hen dacteg yma i apelio at Fwslemiaid yn adlewyrchiad o newidiadau diweddar mewn cymdeithas.
Wedi'r cwbl mae plaid wedi ei chreu yn unswydd i apelio at Fwslemiaid - Respect ydi'r enw 'dwi'n meddwl.
"Llythyr oedd hwn gan grwp o'r enw "Muslims for Plaid" yn esbonio safbwyntiau Plaid Cymru ynglyn â phynciau o bwys i Foslemiaid."
Esgus i gael mini-maniffesto ARALL cyn bo hir felly, llawen addewidion unigryw er mwyn y moslemiaid. Press call ARALL, Adam Price a Dafydd Wigley yn gweddio mewn mosg, Ieuan Wyn Jones yn canu'r Adhan...