Is-etholiadau
Dwi ddim am ddarllen gormod mewn i hwn ond dyma ganlyniad is-etholiad cyngor yng Nghwm Cynon ddoe;
Howard Davies (Plaid) 675
Jeffery Elliot (Llaf 667)
Gogwydd o wyth y cant i Blaid Cymru ers 2004. Mae hon yn ward draddodiadol agos lle mae canlyniadau etholiad wedi cyrraedd yr uchel lys cyn hyn.
Mae hwn yn batrwm gwahanol iawn i'r un a welwyd yn Nhreorci rhai wythnosau yn ôl. Ar ôl colli'r Rhondda yn 1999 mae Llafur wedi adeiladu peirianwaith effeithiol iawn yno. Hwyrach nad yw'r Blaid wedi dysgu'r wers yn rhai o'r cymoedd eraill
Roedd 'na is-etholiad yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg hefyd.
Annibynnol 1062
Ceidwadwyr 640
Llafur 443
Annibynnol 365
Plaid 99
Dem. Rhydd 75
SylwadauAnfon sylw
Diolch yn fawr iawn am y blog etholiadol sydd yn ddiddorol a threiddgar bob tro. Tybed wyt ti wedi meddwl gwneud rhybeth am yr holl newid labeli sy'n mynd ymlaen ymhlith yr ymgeiswyr? Dyna Gwynoro druan - Aelod Seneddol Llafur am gyfnod, wedyn ymgeisydd SDP a Rhyddfrydol, ac nawr yn ymgeisydd annibynnol yn y Canolbarth. Ai fab yn sefyll dros Blaid Cymru ym Merthyr ! - beth tybed fyddai Gwynfor yn dweud am hynny?
Mae Alun Davies yn gyn-gynghorydd Plaid Cymru ar ben rhestr y Blaid Lafur yn y Canolbarth, ond Ron Davies a John Marek wedi hen droi eu cefnau ar Lafur. Iain Sheldon a fu gyda UKIP y tro diwethaf yn ymladd Ceredigion nawr gyda Veritas yn y Canolbarth. Mae'n siwr bod gennyt enwau eraill i'w hychwanegu. Does dim rhyfedd fod yr etholwyr wedi drysu !
Wel,mae Neil Mcevoy ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd yn gyn-gynghorydd Llafur tra bod Leighton Andrews yn gyn ymgeisydd i'r Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaint. Mae'n siwr bod na fwy!
Hefyd, off top fy mhen, Kevin Ethridge yn Islwyn fel ymgeisydd Annibynnol, cynt yn Lib Dem; cyn aelod o'r Blaid Lafur Ian Williams yn sefyll dros People's Voice yn Nhorfaen; rhan fwya o ymgeiswyr Christian People's Alliance yn deillio o bleidiau neu mudiadau eraill; ymgeisydd y Werdd John Matthews yn cyn-gynghorydd Llafur; Peter Rogers wrth gwrs yn Ynys Mon; Clive Tovey, annibynnol ym Merthyr yn cyn-aelod Llafur o'r Cyngor; Giles Howard i'r Ceidwadwyr ym Merthyr yn cyn-gynghorydd Llafur yn Sir Fynwy; Mark Maguire yn Islwyn i'r Lib Dems yn cyn-aelod y Blaid Lafur; Bill Powell i'r Lib Dems yn a y canolbarth yn gymhleth ei gefndir; ac wrth gwrs Dan Munford, cyn rhyddfrydwr sydd nawr yn sefyll dros y Ceidwadwyr yn sir Drefaldwyn.
Siwr bod fi di anghofio ambell un, ond ma ysbryd aml-bleidiol Churchill yn dal yn fyw!