Ceredigion- Beth yw barn Owain Clarke?
Mae Owain Clarke yn gohebu o Aberystwyth yn ystod yr etholiad.
VR; Helo Clarci, Shwt mae pethau yn Aber?
OC; Hynod o ddifyr. Mae'r Plaid a'r Rhyddfrydwyr yn mynd yn gwbwl boncyrs o ran ymgyrchu. Mae ganddyn nhw gynlluniau tÅ· wrth dÅ·, stryd wrth stryd o ran canfasio. Mae'n wir does dim dianc rhag yr etholiad. Roeddwn i yn y parc dydd Sul da cythraul o hang-ofer ac roedd y ddau "battlebus" yn taranu at ei gilydd. Roedd e'n boenus a dweud y gwir.
VR; Pwy sy'n ennill y frwydr bosteri?
OC; O be fi wedi sylwi dwi'n credu eu bod nhw yn eithaf agos at ei gilydd o ran niferoedd ond clywais gan fam a merch wnaeth chwarae "I spy" yn y car o un pen o Geredigion i'r llall taw Plaid sy'n mynd a hi jyst.
VR; Beth am y stiwdents- roedden nhw'n allweddol yn 2005?
OC; Wel mae lot ohonyn nhw wedi bod yn mwynhau'r haul yn nhŷ Mami a Dadi yn ystod gwyliau'r Pasg. Ond maen nhw nôl nawr, ac yn amlwg y cwestiwn mawr yw a fyddan nhw'n pleidleisio ac i bwy. Un peth syn sicr dyw'r pleidiau ddim yn eu hanwybyddu nhw. Mae'r pleidiau wedi bod yr un mor weithgar ar y campws ac ydyn nhw yn y dre.
VR: Pwy syn hyderus, te?
OC: Mae'r ddwy ochor yn dweud bod nhw'n dawel hyderus er na fysan nhw'n meiddio dweud hynny’n gyhoeddus.
VR: Pwy sy'n dweud y gwir a phwy sy'n dweud celwydd felly?
OC; Mae lle gyda'r ddau i fod yn hyderus mewn pocedi, yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw gydag ymgyrchoedd cymharol dawel o ran Llafur a'r Toris does neb yn gwybod a fydd 'na bleidleisio tactegol ac os oes 'na gan bwy ac i bwy.
VR; Dwi'n cymryd bod yr ymgesiwyr wrthi fel lladd nadroedd?
OC; Yn sicr a dydyn nhw ddim am golli eiliad. Dwi'n gwybod bod arweinyddiaeth un blaid wedi cael uffern o job i berswadio ei hymgeisydd i deithio cyn belled â Machynlleth er mwyn lansio polisi.
VR: Dweda rhywbeth doniol wrtha’i, Clarci.
OC: OK... Mae'r darn mawr o bren 'ma jyst tu fas i Aber wedi ei orchuddio gan bosteri'r ddwy blaid ond am ryw reswm mae rhywun wedi sticio llun o Hitler yn y canol. Smo' fi'n meddwl bod e'n sefyll.
VR: Ydy pobol wedi cael digon o'r etholiad?
OC: Na fi’n meddwl bod pobol yn joio fe, o gymharu gydag etholaethau cyfagos mae 'na deimlad o gyffro ac yn draddodiadol mae Cardis yn disgwyl lot am eu plediais...fel eu harian. Gad hwnna mas wnei di. Fi'n mynd nôl na heno. (Nodyn golygyddol; na wnaf)
VR; Pwy sy'n mynd i ennill?
OC; Oes rhaid i fi ateb?
VR; Oes.
OC; Anodd dweud ond mae mwyafrif y punters yr ardal yn son bod Plaid yn mynd â hi unwaith eto...ond byswn i ddim yn betio morgais arno fe. Mae Cardis yn gallu bod yn anwadal. Pwy a ŵyr?
SylwadauAnfon sylw
Roedd y frwydr bosteri'n edrych yn wahanol, ond mae tua hanner cant o rai'r Blaid wedi eu dwyn neu eu malurio yn y ddwy noson ddiwethaf. Y rhai oren wedi cael llonydd. Naill ai mae rhywun yn mynd yn despret neu yn methu cadw rheolaeth dros ei chefnogwyr.
Yn fy mhrofiad i mae difrodi a dwyn posteri yn gwneud mwy o les nac o niwed i'r blaid sy'n dioddef. Mae pobol yn sylwi a siarad am ddigwyddiadau o'r fath.
Roeddwn ar ddeall hefyd fod arwyddion ffyrdd y Democratiaid Rhyddfrydol yn anghyfreithlon gan eu bod wedi defnyddio hen arwyddion nad oedd yn nodi y wybodaeth angenrheidiol o ran pwy oedd yn eu cyhoeddi, hyrwyddo ayb.
Petty, efallai, ond er fod cwyn wedi eu wneud, mae nhw dal yn sefyll, ac mae rhai cyfreithlon plaid Cymru yn cael eu tynnu :-s
Mae Dogfael yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngheredigion o ran difa posteri + llun ar ei flog yma: