Eisteddfod Nia - dydd Sadwrn
Bu Nia Lloyd Jones yn blogio o gefn llwyfan gydol yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, a'r Fro 2011.
Dyma ei chyfraniad olaf . . . tan tro nesaf . . .
Gair i gall cyn dechrau - peidiwch byth â lladd ar y wraig. Dyna'n union wnaeth Trefor Pugh o Drefenter ger Aberystwyth yng nghystadleuaeth goffa Lady Herbert Lewis lle'r oedd o'n canu alaw werin anghyfarwydd i mi, Castiau Gwraig ac yn cwyno ar ei fyd yn y penillion cyntaf, cyn gweld y goleuni ar ddiwedd y gân a sylweddoli pa mor lwcus oedd o i gael gwraig o gwbl!
A llongyfarchiadau mawr iddo ar ennill y gystadleuaeth hon hefyd.
Dwi wedi sôn yn barod am 'y dwbl' sydd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn Wrecsam, ac un arall sydd wedi llwyddo i gyflawni dwbl - a hynny o fewn yr un gystadleuaeth ydi Carwyn John sydd wedi ailadrodd ei gamp yng Nghasnewydd yn 2004 ac ennill eto Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn
Wrth gwrs nid ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud hyn ac mae Carwyn rŵan yn ymuno â chriw dethol iawn yn cynnwys y diweddar Stewart Jones a Sian Teifi - sy'n hyfforddi Carwyn.
Mae mynd ati i ffurfio côr meibion newydd yn dipyn o dasg. Yn ogystal â chael digon o aelodau a threfnu lle i ymarfer mae angen meddwl am enw.
Un na chafodd drafferth yn y byd ydi Elis Gruffydd. Casglodd griw ynghyd sydd yn cynnwys rhai o Gaerdydd a gorllewin Cymru, ymarfer yn nhÅ· ei fam a dewis enw bach slic iawn, Animato.
Ydi, mae animato' yn derm cerddorol ond o dorri'r gair yn ddarnau mi gewch chi "a ni 'ma to"!
Ond i chi gael gwybod y gwir - yr enw cyntaf ddaeth i feddwl Elis oedd Côr Blimey ond gan nad oedd ei fam yn or-hoff o'r enw yma bu'n rhaid ail feddwl.
Ta waeth, llongyfarchiadau mawr i Elis ac Animato ar ennill y gystadleuaeth i gorau meibion rhwng 20 a 45 o leisiau - a hynny ar eu cynnig cyntaf erioed.
Uchafbwynt arall heddiw oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas a llongyfarchiadau mawr i Gwyn Morris o Aberteifi ar ennill. Ac yn ogystal a bod yn unawdydd talentog iawn mae Gwyn hefyd yn aelod o Gôr Undebol Ar Ôl Tri ac Animato!
A dyna ni; wythnos arall o holi ar ben.
A sôn am wythnos dda oedd hi. Cyfle i weld hen ffrindiau a chreu llu o rai newydd.
Diolch eto i bawb fu'n fodlon sgwrsio hefo fi am y byd â'i bethau ac os byw ac iach mi gwelai chi eto ym Mro Morgannwg flwyddyn nesaf.