Canu Ffarwel i Eisteddfod Wrecsam
Wel, mae'r amser wedi dod i lawer ohonom i feddwl am ddechrau pacio'r ces, tynnu'r adlen i lawr o'r garafan neu fwyta'n brecwast ola yn y gwesty a ffarwelio gydag ardal y Bers.
Rhys Iorwerth, Enillydd y Gadair
Mae wedi bod yn Eisteddfod lwyddianus iawn gyda'r ffigyrau ymwelwyr yn iachus eleni eto sy'n dda o beth gyda'r Å´yl yn dathlu ei phenblwydd yn 150 oed. Roedd dewis y Bers fel lleoliad i'r Eisteddfod yn benderfyniad da dwi'n meddwl ac yn fan hyfryd a gwledig. Roeddwn yn teimlo'r tyndra'n diflannu wrth i mi bererindota i mewn i'r Maes o faes parcio B1! Gyda digonedd o wyrddni a gofod, yr unig nigl bach sy gen i am y lleoliad, (ac roedd hyn yn wir am fy ngwesty hefyd ger Croesoswallt), oedd y diffyg WI-FI a signal ar fy ffon symudol. Wedi cael ein sbwylio sbo gydag argaeledd y fath dechnoleg yn y Brifddinas.
I mi, mae yna lawer o uchafbwyntiau wedi gwibio heibio dros yr wythnos a fu -yr emosiwn ar wyneb y Prifardd Geraint Lloyd Owen yn cipio'r goron ar Ddydd Llun; digrifiwch yr Arch-Dderwydd yn gofyn i enillydd y Fedal Ryddiaith, 'Sitting Bull' i 'sefyll', a ninnau'n darganfod mai ei wraig, Manon Rhys, oedd yn fuddugol. Ac wrth gwrs, does dim un Eisteddfod yn Steddfod go iawn heb fod Disgo Marc yn dangos ei ddoniau dawnstastig ar y llwyfan bob blwyddyn-Peter Pan yr Eisteddfod!
Roeddwn yn falch hefyd i weld Bardd ifanc, sef Rhys Iorwerth, yn cipio'r Gadair eleni, sy'n dangos bod y traddodiad barddol yn dal i flodeuo yng Nghymru sy'n holl bwysig wrth i'r Eisteddfod gamu ymlaen i'r dyfodol.
Ar y Maes, fe wnes i fwynhau fy ymweliad i'r Lle Celf unwaith eto eleni. Ac er nad oedd yr adeilad yn meddu ar wow ffactor lleoliad llynnedd, roedd yna ddigon i ddiddanu ymhlith gweithiau cyd-enillwyr y Fedal Aur am Gelf Cain, Bedwyr Williams a Helen Sear (er bod 'adar' Helen Sear yn codi braw arnaf!). Hoffais hefyd y deyrnged i'r ffotograffydd gwych, Geoff Charles, gydag arddangosfa arbennig o'i waith ac atgofion o Eisteddfodau a fu, yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977, yn addas iawn ar gyfer nodi carreg-filltir bwysig yr Å´yl eleni.
Gwaith yn y Lle Celf
Un o fy hoff leoedd ar y Maes yw'r pafiliwn Celf a Chrefft. Dros y blynyddoedd diwetha rwy wedi ei heglu hi at y stondin sy'n gwerthu crochenwaith hyfryd Lowri Davies a phrynu llestr neu ddau. A chefais momento bach eleni eto i gofio Eisteddfod y Bers!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.