Gwasgu ar y Wasg
Hyd yn oed cyn i'r Steddfod ddechrau'n iawn mae aelodau'r Wasg yn wynebu her gan un o gadeiryddion yr ŵyl.
Estynnodd Tudur Dylan Jones, cadeirydd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, her i aelodau'r Wasg ymweld â phentref Mr Urdd ar y Maes a chymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau yno.
Yn wir, fe gefais i wahoddiad personol i brofi'r wal ddringo sydd ym mhob eisteddfod erbyn hyn.
Ond gyda'r bol sydd gen i, rwy'n amau allwn i gael ddigon agos ati beth bynnag - heb son am ei sigo.
Ta waeth bydd angen cadw llygad dros y dyddiau nesaf ar Bentre Mr Urdd sydd yn ôl un daflen yn addo, "clown, artist balŵns, gweithdy drymio samba a sgiliau syrcas, coctels ffrwythau, sioeau amrywiol, perfformiadau o bob lliw a llun . . ."
Nawr ynglŷn â'r clown 'na - mae rhai a ddywed fy mod i hanner ffordd yno yn barod.