Cadeirydd prysur
Un a chanddo wythnos brysur o'i flaen yn yr Eisteddfod yr wythnos hon ydi Dyfrig Ellis, Cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Y mae o yn barod wedi arwain tîm sydd wedi codi dros £120,000 yn yr ardal dros y tair blynedd diwethaf yn ogystal a threfnu cystadlaethau a gweithgareddau ar gyfer yr wythnos.
![Dyfrig Ellis ar y maes ddydd Sul](/staticarchive/2c366ab6ac22a9c165be16874d548d3736975ddc.jpg)
Yn brifathro ysgol, mae disgyblion Ysgol Lôn Las yn cymryd rhan mewn 19 o gystadlaethau yn ystod yr wythnos!