91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cychwyn y peiriant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:52, Dydd Mawrth, 3 Mai 2011

Mae'r peiriant mewn gêr ac yn codi spîd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nid y steddfod nesaf yn Wrecsam na'r un ar ôl honno ym Mro Morgannwg ond honno fydd yn Ninbych yn 2013 credwch neu beidio!

Ac mae cyfarfod wedi ei alw ar gyfer nos Fercher Mai 18 i roi cyfle i unrhyw un sydd am fod â rhan yn y paratoadau i ymuno â'r gwahanol is-bwyllgorau lleol.


"Mae hwn yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus a gynhaliwyd cyn y Pasg, pan ddaeth dros 120 o drigolion lleol ynghyd i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Sir Ddinbych, am y tro cyntaf ers 2001," meddai Gwenllïan Carr, pennaeth cyfathrebu yr Eisteddfod.


Tarfwyd rhywfaint ar steddfod 2001 gan y clwy traed a genau oedd yn sgubo'r wlad ar y pryd ond serch hynny yr oedd yn steddfod gofiadwy pe na byddai ond am fuddugoliaeth Mererid Hopwood yn ennill y gadair - y tro cyntaf i ferch wneud hynny.


Ond mae yna fwy o edrych ymlaen nag yn ôl yn Ninbych ar hyn o bryd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn awr i gychwyn ar y gwaith caib a rhaw o drefnu'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych. Rydym yn annog pobl leol sydd â diddordeb i ddod i'r cyfarfod er mwyn cael bod yn rhan o bwyllgor sy'n ymwneud â phwnc sy'n mynd â'u bryd," meddai Hywel Wyn Edwards y trefnydd.


"Dyma'r cyfle i sicrhau eich bod yn chwarae rhan go iawn yn y gwaith dros y ddwy flynedd nesaf, a gwneud yn siŵr bod stamp pobl Sir Ddinbych i'w weld yn glir ym mhob rhan o'r Eisteddfod, o destun yr Awdl yng nghystadleuaeth y Gadair i'r darn prawf ar gyfer yr Unawd Bas," ychwanegodd.


Bydd cyfarfod Mai 18 yn Ysgol Uwchradd Dinbych am 1830 gan fynd ati i wneud rhywbeth y mae'r Cymry wrth eu boddau yn ei wneud - creu pwyllgorau - 14 ohonyn nhw i gyd: Alawon Gwerin, Celfyddydau Gweledol, Cerddoriaeth, Cerdd-dant, Dawns, Drama, Llefaru, Dysgwyr, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Llenyddiaeth, Cyfathrebu, Cyllid, Llety a Chroeso, Technegol.


Am ragor o fanylion, gellir ffonio Swyddfa'r Eisteddfod ar 0845 4090 400, neu anfon manylion arlein.


Cyn 2013 mae gennym wrth gwrs seremoni yng Ngorffennaf i gyhoeddi Eisteddfod Bro Morgannwg, a gynhelir ar dir maes awyr Llandŵ Awst 4-11, 2012, i edrych ymlaen ati ac Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ei hun ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam am yr wythnos yn cychwyn Gorffennaf 30.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.