91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Creu hanes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:38, Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2011

Un o'r pethau sydd wedi aros yn fy nghof i am ddiwrnod cynhebrwng y Dywysoges Diana yw gohebydd ar y radio yn dweud ei bod "fel y bedd" ar strydoedd un o drefi Cymru y bore hwnnw.

Daeth yr ymadrodd anffodus i gof wrth ddarllen am nofel sy'n holi, beth pe na byddai'r Dywysoges Diana wedi ei lladd yn y ddamwain yna ym Mharis - a'i bod hi'n dal yn fyw?

Dyna'r ddamcaniaeth y tu ôl i nofel Saesneg sydd newydd ei chyhoeddi ar drothwy priodas y Ddau Fonwysyn.

Ond derbyniad digon cymysg fu yna hyd yn hyn i Untold Story gan Monica Ali, nofelydd a gyrhaeddodd restr fer gwobr Booker gyda'i nofel gyntaf, Brick Lane.

Hanfod y stori yw mai marwolaeth ffug fu ym Mharis ac i'r Dywysoges ddianc i'r America lle creodd fywyd newydd iddi'i hun yn gofalu am gŵn mewn tref ddiarffordd o'r enw Kensington (clyfar ta be!)

Gyda'i gwallt wedi'i lifo'n ddu a siâp ei thrwyn wedi'i newid, ei henw yn ei bywyd newydd ydi Lydia - sy'n cuddio'r llygid gleision slei yna trwy wisgo lens dywyll.

Ac mae popeth yn mynd yn iawn nes i hen ffuretwr o newyddiadurwr cyfarwydd , â hi, Grabber Grabowski, daro ar Kensington ar ddamwain - a gweld Lydia am yr hyn ydyw.

Efallai bod hwn yn syniad sy'n swnio fel un da ar yr olwg gyntaf ond does bosib bod sawl cwestiwn yn codi ynglŷn â phriodoldeb troi'r peth yn destun nofel - a chyhoeddi honno ar drothwy priodas un o feibion Diana.

Eisoes, ymatebodd un adolygydd trwy ddweud y byddai'r llyfr yn "chwerthinllyd o wirion pe na byddai mor wrthun".

Ar ben hynny, dywed Charlotte Moore yn y Spectator ei fod wedi ei sgrifennu yn sobr o sâl hefyd.

Ar ben hynny mae'n her i hygoeledd unrhyw un gofyn iddo gredu mai sham oedd yr holl benllanw o alar a sgubodd drwy Brydain adeg ei marwolaeth a'i meibion ifanc yn canlyn ei harch drwy strydoedd Llundain..

Dyw'r stori ychwaith, yn ôl Moore, yn ychwanegu dim at y dehongliad o fywyd Diana a'r hyn ddigwyddodd iddi hi.

"Mae'n fethiant cyfoglyd o ddychymyg moesol a llenyddol. Peidiwch â'i brynu," meddai.

Nid y llyfr i'w ddarllen, felly, os ydych am osgoi gwylio'r Briodas Fawr ar Ebrill 29.

Ond gallwch fentro y bydd sawl un am roi cynnig arno - a thybed pwy fydd yn mentro troi'r nofel yn ddrama deledu.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.