91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Waugh yng Nghymru

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 08:14, Dydd Llun, 14 Chwefror 2011

Cefais fy synnu braidd gweld mai fel awdur y nofel Scoop y mae'r nofelydd Evelyn Waugh yn cael ei ddisgrifio yn y papur newydd y bore ma.

Wedi'r cyfan, er mor ddifyr yw hi, go brin mai hon yw'r enwocaf o'i nofelau. I'r darllenydd cyffredin byddai wedi golygu mwy ei ddisgrifio fel awdur Brideshead Revisited , dyweder.

Ond ta waeth am hynny; yn sgil gwrthwynebiadau i chwalu hen blasdy Victorianaidd yn Llanddulas ger Bae Colwyn y cododd ei enw y bore ma.

Yn yr adroddiad yn y Daily Post dywedir ei bod yn debyg i Waugh ymweld â Phlas Dulas "pan oedd yn dysgu yn yr ardal".

A do'n wir, fe dreuliodd Evelyn Waugh chwe mis - anhapus iawn - yn 1925 yn athro Hanes, Groeg a Lladin ar gyflog o £160 y flwyddyn, yn ysgol breifat Arnold House i fechgyn - adeilad mawreddog ar ben bryn yn edrych dros bentref Llanddulas.

Dyma'r ysgol a ddarlunnir fel Llanabba Castle yn nofel gyntaf Waugh, Decline and Fall a gyhoeddwyd yn 1928 a lle cafodd Paul Pennyfeather swydd dan y prifathro Dr Fagan.

Ysgol a sefydlwyd yng Nghaer yn Chwedegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Parchedig James Clement Pipon oedd yr Arnold House go iawn. Ail gartrefwyd hi yn Landdulas yn 1905 gyda C P Banks yn brifathro - ac ef a gynigiodd swydd i'r Evelyn Waugh 21 oed yn syth o Rydychen.

"Hen ŵr tal gyda llygaid twp," yn ôl Waugh.

Disgrifiodd Waugh Landdulas fel y lle delfrydol i rywun tlawd fel ag oedd ef ar y pryd gan ei fod "mor bell o unrhyw fan adloniant nes ei bod yn amhosib gwario unrhyw arian o gwbl yno."

Ond fe fyddai ef ac athrawon eraill o'r ysgol yn mynychu tafarn leol yn cael ei rhedeg gan "Mrs Roberts".

Cyfuniad ydi'r disgrifiad o adeilad Llanabba Castle yn y nofel o adeilad Arnold House ei hun gyda'i filltiroedd o goridorau a Chastell Gwrych a'i furiau castellog ychydig filltiroedd i'r dwyrain.

Ar ei fynediad i'r ysgol yr oedd Waugh wedi cychwyn sgrifennu ei nofel gyntaf, The Temple at Thatch , ond wedi iddo ei chwblhau cafodd dderbyniad mor siomedig gan ddarllenydd fe losgodd yr awdur y llawysgrif ym mwyler yr ysgol.

Ar ben hynny aeth cynlluniau gobeithiol i ymuno â Charles Scott Moncrieff ym Mhisa i weithio ar gyfieithiad Saesneg o weithiau Proust i'r gwellt hefyd.

Rhwng hyn a'i anhapusrwydd wrth ei waith, penderfynodd wneud amdano ei hun ac un noson dadwisgodd ar draeth Llanddulas a cherdded i'r tonnau gan adael ei ddillad yn becyn ar y traeth a dyfyniad o Ewripides ar ddarn o bapur; "Mae'r môr yn golchi ymaith holl bechodau dyn".

Ond er cymaint ei anobaith dihangodd yn ôl i'r traeth pan gafodd ei bigo gan sglefren fôr - a dychwelyd i'r ysgol!

Ond ni fu'r chwe mis yn wastraff pur. Dair blynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd diweddariad o The Temple at Thatch, fel Decline Fall lle mae'r Arnold House / Llanabba Castle yn rhan bwysig o gychwyn y stori.

Cauodd ysgol Arnold House ei drysau am y tro olaf yn 1943. Bu wedyn yn gartref mendio i Iddewon ac wedyn yn wersyll gwyliau yn y Pumdegau ac yn glwb yfed.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.