Camu mlaen 'da'r sigdiau
Y newyddion da ydi bod ymgyrch hel esgiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam fis Awst yn brasgamu 'mlaen.
Ac wrth i nifer yr esgidiau gynyddu - felly hefyd y galw am eiriau mwys troediadol i sôn am y peth.
Mewn datganiad i'r wasg heddiw yn sôn am y "camu mlaen" dywed pennaeth cyfathrebu yr Eisteddfod, Gwenllian Carr, bod Margaret Williams, Jenny Ogwen, Caryl Parry Jones, Angharad Mair, Siân Lloyd, Donna Edwards a Mererid Hopwood ymhlith y rhai sydd wedi ymateb trwy roi esgidiau i'w gwerthu ar faes Wrecsam.
Ymgyrch sy'n cael ei threfnu gan Ferched y Wawr, yr Eisteddfod a mudiad Achub y Plant, ydi Sodlau'n Siarad a'r nod yw gwerthu'r esgidiau i godi arian tuag at Achub y Plant.
"Y gobaith yw y bydd esgidiau o bob lliw, llun - a maint - yn cael eu harddangos yn y Ganolfan Groeso ar Faes yr Eisteddfod yn ystod wythnos y Brifwyl," meddai Gwenllian.
Bydd Achub y Plant hefyd yn rhedeg siop 'sgidia ar y Maes ac i'r perwyl hwnnw mae Merched y Wawr a'r elusen yn prysur gasglu parau o esgidiau gan ferched o bob cwr o Gymru - ac yn galw am fwy.
Meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr:
"Mae'r ymateb i'r ymgyrch wedi bod yn ardderchog hyd yn hyn, a rydym eisoes wedi derbyn esgidiau o bob math. Unwaith eto eleni, mae cefnogaeth ein haelodau wedi bod yn arbennig, ac rwy'n sicr y bydd y dewis yn y siop 'sgidia ar Faes yr Eisteddfod eleni yn helaeth ac yn sicr o apelio at Eisteddfodwyr o bob oed - a maint esgid!
"Mae Achub y Plant yn elusen gwerth chweil a mawr obeithiwn y bydd merched o bob rhan o Gymru - yn aelodau Merched y Wawr ai peidio - yn mynd ati i dyrchu yng nghefn y cwpwrdd dros y dyddiau nesaf."
Gellir mynd ag esgidiau i swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth, swyddfeydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug neu Gaerdydd neu swyddfa Achub y Plant hefyd yng Nghaerdydd.
Ffoniwch Ferched y Wawr am fwy o wybodaeth - 01970 661 611.
Yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn Y Bala, fel rhan o ymgyrch gan OXFAM amgylchynodd aelodau Merched y Wawr bafiliwn yr Eisteddfod gyda chadwyn o fronglymau wedi eu rhwymo wrth ei gilydd gan beri'r sgil effaith arferol o ddywediadau mwys perthnasol - yn union fel sy'n digwydd yn awr gyda'r esgidiau a'r sôn am gamu mlaen, brasgamu ac yn y blaen - yr ail yn air buddiol ar gyfer y ddau achlysur!
SylwadauAnfon sylw
Clywed fod Imelda Marcos ar ei ffordd i Wrecsam yr haf yma. Mae hi bar neu ddau yn brin medda nhw.