Gwir y gair
Diolch byth am Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones a roddodd ergyd farwol i'r straeon gwirion yna yn y wasg yr wythnos diwethaf am ddylanwad honedig yr iaith Gymraeg ar y Saesneg.
Cyhoeddi fersiwn ar-lein newydd o Eiriadur Rhydychen roddodd gychwyn ar bethau a'r Gymraeg yn cael ei brolio yn ein papurau newydd am roi geiriau fel Penguin i'r Saesneg .
Morwyr o Gymru yn galw'r aderyn dieithr yn Pen Gwyn oedd y stori dylwyth teg ond fel y dywedwyd yn y blog hwn ac fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones wrth gael ei holi gan Dylan Iorwerth ar Radio Cymru pen du sydd gan bengwin beth bynnag.
Yn gofalu am y rhaglen tra bo Gwilym Owen i ffwrdd yn sâl gwahoddodd Dylan Iorwerth y ddau a fu'n gyfrifol am Eiriadur yr Academi - Geiriadur Bruce - i drafod ar Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun Rhagfyr 6 2010, y damcaniaethu cyfeiliornus a fu.
Eglurodd Dafydd Glyn Jones mai yn Nrych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans y pedlerwyd damcaniaeth y pen gwyn gyntaf mewn ymgais i geisio profi mai'r Cymry ddarganfu yr America.
Beth bynnag, yn wahanol i'r straeon yn y wasg yr wythnos diwethaf cadarnhaodd y ddau fod dylanwad y Gymraeg ar y Saesneg y nesa peth i ddim.
"Mae'n rhaid bod y gŵr bonheddig wedi drysu'n llwyr - dydi dylanwad y Gymraeg ar y Saesneg yn nesa peth i ddim," meddai Bruce Griffiths wrth ymateb i honiad un ysgolhaig fod y dylanwad gymaint â'r Ffrangeg ar y Saesneg un adeg.
Tra'n cydnabod bod tarddiad enw ambell i le yn Lloegr yn Geltaidd dywedodd mai'r unig eiriau Cymraeg yn y Saesneg y gallai ef feddwl amdanynt oedd cwm a'r bluen sgota Coch y bonddu heblaw am eiriau fel Eisteddfod a cywydd "na fyddai un Sais mewn miliwn yn eu hadnabod".
Gwnaed yn fawr yr wythnos diwethaf hefyd o ddamcaniaeth i'r gair cwts a chwtsio gael ei fenthyg o'r Gymraeg ond dywedodd Dafydd Glyn Jones a Bruce Griffiths mai o'r Ffrangeg, drwy'r Saesneg, y daeth y gair hwnnw i Gymru yn y lle cyntaf!
Ond un gair na soniodd y ddau amdano y mae ei wreiddiau yn yr ieithoedd Celtaidd yw car. Wel, dyna ddywedwyd wrthyf i beth bynnag!