Geirio - dyfyniadau
Llythyr Annwyl John, Gwyl Gerdd Dant, chwaraewr mawr Cymru - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf
A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .
- Roedd arogl mor dda ar y dorth, ac roedd yn dal yn gynnes ar ôl cael ei phobi yn y siop - Maggie Sullivan ar ôl darganfod darn o gadach 'J Cloth' mewn torth a brynodd yn Tesco, Cas-gwent.
- Pe byddai i fyny i mi fe fyddwn yn eu gadael i mewn am ddim ond nid felna mae pethau'n gweithio - Shane Williams a phrisiau uchel tocynnau rygbi.
- Na i DORI-adau Don'r CONDEM S4C - poster yn y rali S4C yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.
- Dydw i ddim y math o ferch fyddai'n mynd yn noeth ar gyfer lluniau - Alex Jones, cyflwynydd 'The One Show' ar 91Èȱ¬ 1, a ddywedodd bod rhan uchaf ei chorff yn "ffein" ond "mae'r gwaelod yn perthyn i rywun arall".
- Mewn gwirionedd mae llawer ohonom ni sydd dros 50 oed yn fwy ffit nag ambell un dan 30 sy'n chwarae'n rheolaidd bob Sadwrn - Stephen Clee, aelod o Glwb Rygbi Tonyrefail y mae Undeb Rygbi Cymru yn gwrthod ei yswirio am ei fod yn 55 oed.
- Dywedwyd wrthyf ei fod yn sicr o ddigwydd y flwyddyn nesaf. Mae pobl ar hyd a lled y byd yn siarad am y ddau - Brian Hoey, sylwebydd Brenhinol, yn rhagweld yn y 'Western Mail' briodas y Tywysog William a Kate Middleton y flwyddyn nesaf.
- Efallai y byddai hon y gic yn y pen ôl mae Mike ei hangen - Terry Holmes yn dadlau nad Mike Phillips ddylai fod yn fewnwr Cymru yn y gêm yn erbyn De Affrica yfory.
- Dymunaf fod yn gwbwl eglur, gyda chi ac eraill o blith Awdurdod S4C nad oes gan y 91Èȱ¬ unrhyw uchelgais i draflyncu S4C -Syr Michael Lyons mewn at gadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones.
- Dwi wastad wedi bod yn gwbl argyhoeddedig fod gan Gymru y dalent i wneud gwahaniaeth real a chreu argraff ar lwyfan Prydeinig - Menna Richards, pennaeth 91Èȱ¬ Cymru, .
- Nid ydym yn hapus gyda'r hyn sy'n digwydd. Rydym yn delio gyda'r mater, a hynny'n drwyadl, ac fe fyddwn yn dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd - yr , Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yn ymateb i stori bod seren bop o Malaysia sydd â doethuriaeth ffug wedi bod yn cynnig cyrsiau gradd gan Brifysgol.
- Mae tanau ym mhobman a phobl yn malu ffenestri. Yr oeddem yn disgwyl diwrnod cyffrous, heddychlon, nid hyn - Zoe Temple, myfyrwraig o Gymru a deithiodd i Lundain i brotestio ddydd Mercher.
- Dylai pwy bynnag ddyfeisiodd y cynllun hwn fod wedi holi ffarmwr nid rhyw swyddog gyda gradd prifysgol yng Nghaerdydd - Michael Atkin, ffermwr o Glynnog sy'n anhapus gyda chynllun Glastir.
- Mae'n ddrwg iawn gen i hogia, ond waeth i chi gyfadde ddim - cenfigen sy'n gyfrifol am y pentyrru sen ar Mr Henson ynde? Nid yn unig mae o'n athletwr o safon rhyngwladol, ond mae o'n goblyn o bishyn hefyd - Bethan gwanas yn achub cam Gavin Henson yn adran 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
- Dwi'n edrych ymlaen yn arw iawn at y profiad . . . cael deud, 'Stiwardiaid caewch y drysau.' Dwi rioed wedi cael dweud hynny o'r blaen - Dilwyn Morgan a fydd yn arwain o'r llwyfan yn yr Wyl Gerdd Dant ym Mangor ddydd Sadwrn.
- Rhaid i mi dderbyn . . . y bydd hanner nifer capeli Cymru wedi cau erbyn diwedd y degawd hwn. Ac fe fydd yn rhaid i batrwm addoli newid yn llwyr os yw Cristnogaeth i oroesi - Felix Aubel yn ei hunangofiant, 'Fy Ffordd fy Hunan'.
- Mae o'n chwaraewr mawr, corfforol. Y tro diwethaf imi weld cluniau felna oedd ar rai o'r Polynesiaid yn Seland Newydd - Warren gatland am George North o'r Scarlets sydd wedi ei ddisgrifio fel Jona Lomu Cymru.