Creu geiriau
Heb amheuaeth, cwch pi pi am JetSki oedd y bathiad Cymraeg gorau o derm Saesneg a gafodd Dafydd a Caryl ar eu rhaglen fore ddoe ar 91Èȱ¬ Radio Cymru.
Wedi eu hysbrydoli gan nifer y geiriau newydd yn yr argraffiad diweddaraf o eiriadur Collins chwilio yr oedd y ddau am ffurfiau Cymraeg i nifer o ymadroddion Saesneg fel namedropping, reflected glory, starstruck, gastric band ac ati.
Er mai braidd yn siomedig a chlogyrnaidd oedd y rhan fwyaf o'r cynigion mi sleifiodd ambell i fathiad gwreiddiol iawn i mewn fel y cwch pi-pi yna am y cerbyd môr JetSki.
Tynnwyd hefyd sylw at fathiad bachog Emyr Llewelyn, bolgi baw am vacuum cleaner.
Mi hoffais i hefyd arwr-garwr am hero worshipper ac yr oedd Caryl, yn naturiol, wrth ei bodd gyda'r gair bando am gastric belt. Cynigion eraill oedd belt bloneg, belt barus a belt atal bol.
Ymunodd Geraint Evans, cyn ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth, â'r ddau yn eu hymchwil ac yr oedd ganddo ef sawl awgrym diddorol:Murdal - am paywall sy'n gorfodi defnyddiwr i dalu am fynediad i wefan.
Ufferngorn am vuvuzelas swnllyd Cwpan Bêl-droed y Byd.
Gŵyl adref oedd y cynnig am Staycation yn cywasgu'n gladre.
Ceidem am glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fflamio am 'to flame' mewn ebyst.
Hawddus am simples Meercat yr hysbysebion..
Yr oed Geraint yn cymeradwyo fel un da y gair blog a'i ffurfiau, blogiau a blogio - a hynny oherwydd bod blog, er nad yn air cynhenid Gymraeg, yn air sy'n ymddwyn yn Gymreig gan dreiglo a mabwysiadu ffurfiau eraill fel blogiwr ac yn y blaen yn gwbl naturiol.
Ffurfiau eraill a anfonwyd gan wrandawyr oedd:
- TÅ· bach clwm - ensuite
- Ffristag - Freeview ond efallai'n gyfyngedig i ardal Caernarfon.
- Belt atal bol - gastrict band
- Hapenwi, enw-frolio, dadlwytho enwau, sêrsonio - namedropping.
- Crachgarwyr, selebgi, sêrddotiwr, sêrgarwr - hero worshipper.
- Twm Twm - sat nav (ar ôl TomTom)
- Gwepgodiad - facelift.
- Cwsgad neu nosio - sleepover.
Dyna ddigon o eiriau am y tro - ond mae croeso ichi anfon eich bathiadau chwithau.
- Mae Dafydd Du a Caryl yn darlledu am 0830 ddydd Llun i ddydd Gwener ar 91Èȱ¬ Radio Cymru.