Ymwelydd annisgwyl
Y stori orau a glywais i yn sgil ymweliad diweddar y Pab â'n cymdogion agos oedd honno am ddigwyddiad dro'n ôl yn y Fatican.
Wrth edrych allan drwy ffenestr ar Sgwâr Sant Pedr mae nifer o gardinaliaid a phwysigion Pabyddol eraill yn gweld Iesu Grist ei hun yn cerdded i fyny'r grisiau sy'n arwain at y prif ddorau.
O hir graffu ac ymgynghori ymhlith ei gilydd, doedd dim amheuaeth yn eu meddwl mai Ef oedd yno ac fel y gellid dychmygu achosodd y fath ymweliad gryn dipyn o gynnwrf yn eu plith a hwy a rhuthrasant yn syth i swyddfa'r Pab ei hun i ddweud wrtho.
"Mae Iesu Grist Ei Hun wei cyrraedd y Fatican. Ac mae o ar ei ffordd i fyny yma," meddan nhw. "Beth ddylem ni ei wneud?"
Ac atebodd y Pab heb oedi o gwbl; "Edrych yn brysur."
Stori sy'n ddameg gyda sawl dehongliad ac i bawb ei dehongli yn ei ffordd ei hun.