91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Mabinogi a'r Tibetiaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:31, Dydd Sadwrn, 25 Medi 2010

Tynnu sylw at yr hyn sy'n debyg rhwng chwedlau'r Mabinogi a straeon traddodiadol Bwdhaeth Dibetaidd fydd cyfarfod yn Aberystwyth fis Hydref.

Dan y teithl, Darganfod byd arall: y Mabinogi, straeon Bwdhaeth a'r llwybr ysbrydol bydd y dramodydd, nofelydd a'r bardd Aled Jones Williams yn ymuno â'r athrawes Bwdhaeth Tibetaidd Lama Shenpen Hookham yng , Aberystwyth, ar nos Fercher, Hydref 27 am 7.30 i drafod pwyntiau cyffredin rhwng straeon Cymraeg a rhai Bwdhaidd.

Ymddengys bod nifer o agweddau tebyg rhwng straeon y Mabinogi a Bwdhaeth Tibetaidd sy'n gallu datgelu gwirioneddau seicolegol ac ysbrydol sydd yr un mor bwysig i ni heddiw ag oedden nhw yr oesoedd a fu.

Hynny'n un o themau nofel Medal Ryddiaith Eisteddfod Blaenau Gwent gan Jerry Hunter wrth gwrs.

Mae tocynnau ar gael o'r Morlan neu wrth y drws £6 neu £3.

Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Grŵp Myfyrio Aberystwyth a Chanolfan Morlan.

Gellir cysylltu â Jane Powell ar 07929-857173 neu ebost

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.