91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ochr arall awdur plant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 12:28, Dydd Iau, 16 Medi 2010

Dechreuodd yr wythnos hon gyda diwrnod i ddathlu Roald Dahl yr awdur llyfrau plant.

Yr oedd cryn ddiddordeb Cymreig yn y digwyddiad gan mai yng Nghaerdydd y ganwyd yr awdur a wnaeth gymaint o gyfraniad i lenyddiaeth plant yn Saesneg.

Ond er wedi ei eni yng Nghaerdydd doedd o ddim yn Gymro. Ei dad a'i fam yn Norwyaid, a'r tu allan i Gymru y cafodd y rhan fwyaf o'i addysg - anhapus.

Ond mae cryn ddwsin o'i lyfrau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg erbyn hyn a hynny'n adlewyrchiad o'r poblogrwydd mawr a ddaeth i'w ran yn y Saesneg.

Newydd ei gyhoeddi hefyd y mae cofiant newydd iddo, Storyteller: The Life of Roald Dahl gan Donald Sturrock - cofiant canmoliaethus ar y cyfan o waith y dyn ac o'r dyn ei hun.

Ond yn ôl un adolygydd yr oedd Dahl mewn gwirionedd ymhell o fod yn ddyn clen a hynaws.

Yn adolygu llyfr Sturrock yn y Guardian y Sadwrn diwethaf mae Kathryn Hughes yn ei ddisgrifio fel person oedd yn "absolute sod".

Mae hi - sy'n fywgraffydd ei hun ac yn awdur llyfr am Mrs Beeton ac un am George Eliot er enghraifft - yn darlunio Dahl fel rhyw hen hogyn mawr, drwg, atgas, yn crashio trwy fywyd gan elyniaethu bron bawb yr oedd o'n eu cyfarfod oherwydd ei drahaustra, anonestrwydd a sbeit.

Dyn cwbl cas ei wyneb.

O'i roi o felna mae'r Dahl y mae hi'n sôn amdano yn ei hadolygiad yn swnio'n debyg iawn i un o'i gymeriadau mwyaf ffiaidd ei hun!

Cyfeiria at hyrddiau o wrth semitiaeth a mercheta ar ei ran a'r hyn a eilw yn "generalised ungraciousness".

Yn cael ei yrru gan awydd angerddol i fod yn gyfoethog dywed Hughes mai'r hyn a wnaeth oedd llwyddo i fireinio ei ffieidd-dra naturiol yn gyfres o lyfrau gafaelgar yr oedd plant wrth eu boddau â hwy.

Llyfrau, meddai yn drawiadol iawn, "a ganiataodd i ddarllenwyr ifainc grwydro i leoedd tywyll iawn a dal i fod adref erbyn amser te".

Adlewyrchiad o natur atgas y dyn oedd bod ffieidd-dra a sadistiaith rhywiol yn elfennau o'i sgrifennu - aflwyddiannus gan fwyaf - ar gyfer oedolion ac eglura mai oherwydd siom gyda'r derbyniad a gafodd y gwaith hwnnw y trodd at sgrifennu i blant.

Ond er ei lwyddiant, maes o law, fel awdur plant bu'n rhaid iddo ymgodymu a sawl trallod yn ei fywyd personol.

Anafwyd ei fab mor ddifrifol mewn damwain yn Efrog Newydd yr oedd arno angen gofal bob awr o'r dydd.

Llethwyd ei wraig, yr actores Patricia Neil o'r America, gan gyfres o drawiadau ac fe'i gadawodd yntau hi am ferch arall, Felicity Crosland.

Ond er holl ffaeleddau Dahl mae Hughes hefyd yn gorfod cyfaddef ei fod yn parhau "yn un o'r grymoedd mwyaf er daioni" ym maes llenyddiaeth plant yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf "er gwaethaf yr holl resymau dros ei ddrwglecio".

A dyna ichi un olwg ar Roald Dahl, a anwyd ac a fagwyd yng Nghaerdydd.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.