Mewn gair - dyfyniadau
Brian Flynn, Gavin Henson, merch Glyndwr a llythyrau hwyr - rhai o bobl a phynciau'r wythnos yng ngeiriau pobl eraill yn ein detholiad wythnosol o ddyfyniadau.
A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .
- Golygodd y tarfu ar wasanaethau awyr y Deyrnas Unedig oherwydd y lludw o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Ia yn ystod y gwanwyn i'r Post Brenhinol fethu a chyrraedd ei nod o 93% yn ystod y cyfnod hwn - Tony Baxter o'r Post Brenhinol yn egluro pam na chyrhaeddodd llythyrau dosbarth cyntaf rannau o Gymru mewn pryd yn ystod tri mis cyntaf 2010 .
- Rydym wedi adfer yr hen enw - . . . Roedd y rhan fwyaf ohonoch yn dal i alw'r Daily Post Cymraeg yn Herald Cymraeg felly roedd synnwyr cyffredin yn dweud mai dyna'r enw gorau iddo - Nodyn ar ddalennau Cymraeg y 'Daily Post'.
- Dwi ddim yn trio bod yn ffasiynol achos does na ddim pwynt - mae ffasiwn yn mynd allan o ffasiwn. Dwi ddim yn rhan o unrhyw symudiad chwaith. Ymateb i'r hyn sy'n dod i mi'n fewnol ydw i - Yr arlunydd a'r cerflunydd John Meirion Morris sydd ag arddangosfa gyda Wil Roberts yn Oriel Môn.
- [Y] gwahaniaeth rhwng pregeth sâl ac un dda, weithiau, yw faint a beth mae pregethwr wedi ei ddarllen, hynny yw, faint mae wedi gwrando ar rai a all fod yn fwy gwybodus a deallus nag ef ei hun - Vivian Jones yn 'Y Tyst'.
- Mae gen i lun o chwarelwr yn crogi ar graig uwchben y lle tân, a bob tro dwi'n meddwl fod bywyd yn galed, edrychaf ar y llun - a chyfrif fy mendithion - Angharad Tomos yn 'Yr Herald Cymraeg' yn diolch fod y fath waith wedi darfod.
- Rydw i'n byw i fyny yma [yn Llundain] ac yn gwneud sioe yn y West End ac mae gen i ddilyniant da ar Twitter. Mae'n rhywbeth yr ydw i wedi breuddwydio amdano erioed - Lucie Jones o Bentyrch sydd wedi ei dewis yn 'wyneb newydd' Wonderbra.
- Rydym yn credu nad yw amryw o ddynion yn teimlo eu bod yn gallu siarad am eu teimladau ac yn hytrach yn ei ddal i mewn ac yn gadael iddo fynd allan o reolaeth - Rachel Kirby-Rider o'r Samariaid yn egluro'r rheswm am ymgyrch sy'n cynnig cymorth i ddynion sy'n ystyried lladd eu hunain.
- A oes unrhyw arwyddocâd ar benodiad Prif Weithredwr dros S4C sef Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, y corff sy'n edrych ar ôl yr anghenus a llai ffodus mewn cymdeithas? - Llythyr yn 'Y Cymro' gan Bryan Roberts, Caerdydd.
- Cafodd y cerflun ei wneud yn wreiddiol i gyfleu dioddefaint menywod a phlant mewn rhyfel yn ogystal ag ysbryd oesol Cymru - Rhian Medi am y cerflun a ail ddadorchuddiwyd yn Llundain i goffau Catrin Glyndwr a'i phlant.
- Mae'n hen bryd inni weithio'n awr i gael Sycharth yn lle i ymweld ag ef - Yr Archdderwydd, T James Jones.
- Dyw ei ddawnsio mo'r gorau. Mi wnâi bleidleisio iddo fo - Charlotte Church yn addo ei chefnogaeth i Gavin Henson ar 'Strictly Come Dancing'.
- Mae llawer o bobl wedi bod yn cwyno ei fod yn stomp llwyr - Maer Talacharn, Roy Thomas, am 'Brown's Hotel' lle'r arferai Dylan Thomas yfed.
- Pan ydym yn gweld teisen ben-blwydd nid yr eglurhad cemegol a gwyddoniaeth cynhyrchu cacen sy'n gwneud synnwyr. Mae'n gwneud mwy o synnwyr i siarad am y cariad a'r dathliad sy'n deillio o ben-blwydd - Esgob Gregory o Lanelwy yn dadlau nad dehongliad gwyddonol rhai fel Stephen Hawking sy'n bwysig wrth drafod bodolaeth Duw.
- Flynn yw'r dyn gorau ar gyfer y gwaith - John Hartson yn cymeradwyo dewis Brian Flynn i ofalu am dîm pêl-droed Cymru am y ddwy gêm nesaf - er y byddai'n hoffi'r swydd ei hun!
SylwadauAnfon sylw
Fy hoff ddyfyniad i o gynhadledd Brian Flynn gyda'r wasg oedd:
"Mae pob un chwaraewr yn fy adnabod, ac yn gwybod yn iawn beth yw'r rheolau. Y rheol gyntaf yw bod neb yn cael fy nhaclo i yn ystod gemau ymarfer!"