91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twm - y dyrnwr o'r Nant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:28, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

Mwya'n byd mae rhywun yn ei ddarllen amdano mwya'n byd mae rhywun yn dod i ddeall bod Twm o'r Nant, a fu farw ddau gan mlynedd i'r mis hwn, yn siŵr o fod gyda'r mwyaf lliwgar o'n llenorion.

Twm o'r Nantyn y llyfr 'Ceinion Llenyddiaeth Gymreig' gan Owen Jones, 1876

Nid yn unig yn un handi gyda geiriau ond yn handi â'i ddyrnau hefyd - ac yn gariwr coed, saer maen a thorrwr cerrig beddau wrth ei alwedigaeth yr oedd yn ôl yr hanes yn ogystal a bod yn sgwennwr yn ymladdwr cydnerth a chhyrog.

Yn ei hunangofiant - yr hunangofiant Cymraeg cyntaf yn ôl y sôn, oni ddywedwch chi'n wahanol - mae'n disgrifio'n frawychus liwgar ymladdfa a fu rhyngddo ef â mab fferm gyfagos gyda'r ddau yn pastynu ei gilydd hyd at waed gyda pholion ffensio.

Twm a orfu gyda'r llall yn methu sefyll "a'r creithiau arno ef a minnau hyd heddyw" yn ôl Twm.

"Yn y diwedd, yn llawn o waed colledig, fe ddarfu i'w gymdogion ei gynllwyn ef adref, a sâl iawn a fu, a rhai yn barnu y byddai farw," meddai.

Gwaethygodd cyflwr y gwrthwynebydd gymaint y penderfynodd Twm gymryd y goes a dianc "dros y mynydd" yn ffoadur rhag y gyfraith.

"Fe fynnwyd peth cyfraith arnaf, ond nid llawer," meddai - beth bynnag yn union mae hynny'n i feddwl yn union.

Beth bynnag am hynny addawodd i'w fam wedi'r gwffas hon y byddai'n ymatal rhag ymladd wedyn "rhag digwydd i mi beth a fyddai gwaeth".

Neu yn ei eiriau ei hun "mi a beidiais ag ymladd llawer ar ôl hynny" - hynny yw, doedd o ddim am lwyr ymwrthod!

Anodd dychmygu y fath ddyn yn ymgyfeillachu â'r enwog Barchedig Thhomas Charles ond byddai'r ddau yn cyfarfod yn aml yn siop Robert Llwyd yn Rhuthun.

A chyda Thwm mor arw yn ei anterliwtiau ag yr oedd mewn bywyd mae sôn i Thomas Charles geisio ei berswadio i beidio â bod mor gignoeth gyda'r rhai yr oedd yn eu dychan yn ei anterliwtiau; ond unig ymateb Twm oedd:

"Mr Charles, edrychwch chi ar ôl y defaid; mi edrychaf innau ar ôl y bleiddiaid."

A cheir blas o'i driniaeth o'r bleiddiaid mewn englyn â sgrifennodd yn dilyn marwolaeth cyfreithiwr â groesodd gleddyfau ag ef ac y cafodd y fraint o baratoi ei garreg fedd:

Hen elyn melyn i mi - fuost
A'th fawaidd goegni,
Minnau ges osod meini,
Dew faedd diawl, ar dy fedd di.

Y gair olaf yn go iawn . . .

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.