Merched BA
MI fum i'n gweld drama y noson o'r blaen ac fel sy'n digwydd yn aml iawn mi all gwylio'r gynulleidfa cyn i'r ddrama ddechrau fod bron iawn cyn ddifyrred a gwylio'r perfformiad ei hun.
Yn ddifyrrach weithiau, rhaid cyfaddef - er nad dyna'r achos yn Neuadd Ogwen ar gyfer noson agoriadol Deryn Du gan Theatr Bara Caws gan fod hwn yn berfformiad o ddrama a digon i'w drafod amdani .
Beth bynnag, yr hyn na allech chi ei osgoi oedd mai merched oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa. Yn wir, fel roedd y neuadd yn llenwi roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n un o rhyw hanner dwsin yn unig o ddynion - ond erbyn i'r ddrama ddechrau efallai bod na chydig mwy na hynny. Saith dwedwch.
Doedd nifer y dynion ddim yn cymharu o gwbl â nifer y merched - o bob oed.
Go brin mai rhywbeth arbennig i Fethesda oedd hyn ac rwyf wedi sylwi arno mewn lleoedd eraill hefyd a'r un yw'r stori gyda chynulleidfaoedd a welir ar raglenni teledu.
Does gen i ddim eglurhad i'w gynnig. Efallai, i fod yn secsust, bod na gêm ffwtbol go dda ar y teledu. Neu ella i ddynion Bethesda aros adref i weld y Gweilch yn rhoi cweir i Ulster ar S4C. Neu i olchi llestri swper.
Neu efallai bod merched yn fwy diwylliedig na dynion.
Neu efallai bod merched yn lecio mynd allan fwy na dynion.
Neu'n wir bod ganddyn nhw fwy o amser ar eu dwylo i fynd allan.
Pe byddai rhyw ferch yn digwydd bod yn y tÅ· yn darllen hwn efallai yr anfonith hi air.
Cyn mynd allan . . .
SylwadauAnfon sylw
Adolygiad ardderchog Glyn.
Vaughan