91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Troi'r tafod - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:26, Dydd Gwener, 26 Chwefror 2010

Ar ddydd Gwener arall - ail fyw'r wythnos drwy trwy flasu rai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

  • Rhaid inni ddal i bwysleisio ein bod yn ceisio gwneud y chwaraewyr hyn yn gyfrifol ac yn aeddfed - Warren Gatland yn cyhoeddi na fydd chwaraewyr rygbi Cymru yn cael mynd allan i yfed wedi gemau. Dim ond peint neu ddau yn y gwesty.
  • Roeddwn i wedi torri ystyr y rheolau ond nid eu hysbryd nhw . . . Roedd rhaid imi sgwennu cân a dyna'r pwynt. Rwy'n hollol fodlon ar hwnna hyd y dydd heddi - Dic Jones am helynt Eisteddfod Aberteifi 1976 yn ei gyfweliad teledu olaf i'w ddangos Mawrth 1 a Mawrth 4 ar S4C.
  • Does yna ddim troi'n ôl. Yr ydw i wedi bod yna, gwneud hynna a chael y bathodyn. Mae'n amser symud ymlaen a dychwelyd at y breuddwydion oedd gen i - Jemima Phillips, cyn delynores afradlon y Tywysog Charles, yn cyhoeddi yn y Wales on Sunday y bydd yn troi ei chefn ar gocên.
  • Ddiwedd y dydd fydd yna ddim ateb milwrol. Bydd yn rhaid iddo fod yn ateb diplomyddol - Elfyn Llwyd AS am y gobeithion yn Affiganistan.
  • Yr ydw i wedi clywed fod Jennifer Aniston yn dal ar gael - Lembit Opik sydd newydd orffen â'i gariad ddiweddaraf, Katie Green y fodel Wonderbra.
  • Yr oedd o'n sgrechian yn uchel. Fe fyddwn i'n hoffi meddwl mai ceisio annog bechgyn Cymru oedd o. Ond rwy'n amau mai eisiau bwyd oedd o! - Richard Endacott y ganwyd ei fabi ef a'i wraig Rachel mewn ysbyty yn Slough yn ystod egwyl y gêm rygbi yn erbyn yr Alban lle cafodd Cymru ail wynt a mynd ymlaen i ennill.
  • Gallaf sicrhau . . .nad yw trigain [oed] yn ddiwedd y byd - Hafina Clwyd yn 'Y Cymro'.
  • Sali Mali; Y ffilm - Huw Stephens yn ateb y cwestiwn 'Pa lyfr hoffech weld yn cael ei addasu ar gyfer S4C?' yn 'Y Cymro'.
  • Rwy'n gwbl argyhoeddedig fod Y Gaiman yn le unigryw ac fe gefais fy swyno gan y pentre hudolus yma - Terry Waite wedi ei ryfeddu gan y gymysgedd o Sbaeneg a Chymraeg ym Mhatagonia.
  • Dw i'n ddyn hapus iawn. Ond mae ffenestri plastig yn fy ngwneud yn anhapus! - Greg Stevenson '4 Wal' yn 'Golwg'.
  • Nos Wener allwn ni ddim ei gadael hi tan y pum munud olaf - bydd pawb sydd am ddal trên Arriva wedi gadael . . . - pennawd yn y 'Western Mail' am yr ornest yn erbyn Ffrainc.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.