Cofio Hywel Teifi
Trawodd rhywun yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd mai camp fawr Hywel Teifi Edwards oedd tynnu'r 'Hi' allan o 'History' a'n gadael gyda'r 'story'.
Ac fel y bywiocaf a'r mwyaf ei arabedd o'n haneswyr diwylliannol adroddai y straeon hynny mewn ffordd cwbl ddihafal.
Gyda'i eiriau cyntaf byddai'n bachu cynulleidfa ac yn ei chadw wedyn wrth i'r geiriau, yr ebychiadau a'r arabedd naturiol lifo.
Gallai bentyrru gwybodaeth heb ymddangos ei fod yn gwneud hynny a gallai hefyd ar yr un pryd grynhoi mewn cneuen ei neges. Dim rhyfedd ei fod yn un yr oedd y cyfryngau mor awyddus i droi ato am sylw am bob math o bynciau o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i bêl-droed.
Enillodd ei blwyf fel darlledwr diddan ar faterion llenyddol nôl yn y Chwedegau yn adolygu ar raglen radio yn ymwneud â llyfrau gan danio ac ennill edmygwyr o'i adolygiad cyntaf un.
Un Nadolig byrdwn ei sylwadau oedd yr holl alwyni o 'Optrex' y bu'n rhaid iddo wrthynt i'w lygaid ddygymod a'r holl lyfrau ddaeth allan oll gyda'i gilydd!
Yr oedd hyn yn ystod ei gyfnod yn ddarlithydd adran efrydiau allanol. Cyfnod pryd y bu'n cyfoethogi ac yn cael ei gyfoethogi o'i ymwneud â phobol achos ysgolhaig y dyn cyffredin yn ei festri capel a'i neuadd bentref oedd Hywel Teifi Edwards yn hytrach na'r tyrau ifori a chyda mwy nag ychydig o arlliw Bob Owen Croesor genhedlaeth ynghynt yn mwynhau - ac angen cynulleidfa.
Yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, wedyn, yn anadl einioes yn ogystal â maes astudiaeth iddo ac yr oedd yn gredwr cryf yn rhinweddau seremoniol y Brifwyl.
Dyna pam yr oedd yn un gefnogwyr selocaf seremoni y Cymry ar Wasgar fel yr arferid ei galw a chododd ei lais fwy nag unwaith o weld y seromoni honno yn cael ei glastwreiddio dros y blynyddoedd diwethaf tra byddai ef yn annog ei gwneud yn fwy yn hytrach nag yn llai o basiant.
Hoffai holl theatr y digwyddiad hwn a seremoniau eraill yr Eisteddfod.
Yn y gyfrol Cawr i'w Genedl mae'r diweddar W M 'Moc' Rogers yn cael ei ddyfynnu yn disgrifio Hywel Teifi Edwards fel "caleidosgop" o gymeriad.
"Symudwch y bocs ewinfedd a fydd dim dal beth welwch chi na dim dal ychwaith beth glywch chi," meddai.
Oedd, yr oedd pob math o batrymau a diddordebau a hynny mewn Cymraeg ar ei mwyaf bywiog, naturiol, a'i mwyaf cyhyrog.
Does ond angen troi i wefan Gwales Cyngor Llyfrau Cymru i weld rhychwant ei gyfraniad a'i ddiddordebau drwy'r nifer o'i lyfrau sydd ar werth - gyda'r hiraf ar y safle.
Ac yng nghefn Cawr Cenedl mae'r bennod ar ei lyfryddiaeth yn un ddalen ar hugain o hyd gan gychwyn yn 1955 gydag ysgrif Pysgod yng nghylchgrawn Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth Y Ddraig - Dragon y bu'n olygydd Cymraeg iddo.
Parhaodd y gweitrhgarwch tan y dyddiau diweddaraf un.