Mwg newydd
Ar un adeg un ffordd o ddangos mewn ffilm fod cymeriad yn soffistigedig oedd smocio.
Yr adeg honno yr oedd ysmygu - smocio - yn beth cŵl iawn i gymeriad mewn ffilm ei wneud gyda'r ffordd yr oedd actor yn dal sigarét ac yn chwythu allan y mwg yn dangos o ba radd o soffistigeiddrwydd oedd o.
Yn ddynion deniadol ac yn ferched dengar byddai'r sigarét yn ychwanegu at eu hawddgarwch a'u hud.
Gallai rhai chwythu cylchau neu fodrwyau o fwg
Yna, wedi i feddygon gadarnhau yn ddiddadl effeithiau smocio ar iechyd pobl pallodd yr arfer a'r dyddiau hyn prin yw'r cymeriadau ffilm a dramau teledu sydd a sigarét yn eu llaw.
Tan yr wythnos diwethaf yma hynny yw gydag un adolygyudd yn sylwi bod arwyr tair ffilm ddiweddar yn smocio'n ddi-dor;
Grace Augustine a chwaraeir gan Sigourney Waver yn ffilm ddiweddaraf James Cameron, Avatar yn smocio'n ddi-baid;
John Lennon yn cael ei chwarae gan Aaron Johnson yn Nowhere Boy eto'n tynnu'n gyson a'r un modd a Guido Contini a chwaraeir gan Daniel Day-Lewis yn Nine.
Ac yn y ffilm Sherlock Holmes newydd a ddaeth allan ddydd San Steffan mae gan Y Ditectif Mawr hefyd ei getyn yn ddymi er, mae'n wir dweud, nad yw yn ei geg mor aml a Holmsiau a fu.
Faint fydd hi tybed cyn y bydd rhywrai yn cwyno am yr holl fwg newydd yma?