91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyri, cyri adref . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:56, Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2009

Tybed ydi o'n destun traethawd ymchwil?
Dylanwad y Cyri ar Wleidyddiaeth yng Nghymru a Phrydain.

Beth sydd i'w gyfrif am y berthynas od rhwng gwleidyddion a chyri?

Alistair Darling rhyw dair wythnos yn ôl yn sôn mai mynd a'i wraig allan am gyri wnaeth o i ddathlu trydydd pen-blwydd ar hugain eu priodas.

A datgelu ar yr un pryd mai cyris oedd ar fwrdd tîm y Trysorlys pan oedden nhw'n trafod yr argyfwng ecnomaidd yn oriau mân y bore - cyw iâr tandwri yn bennaf.

"Fe fydda i'n synio weithiau, a fyddai modd canfod cydberthynas rhwng cynyrfiadau economaidd a llyfr archebion y Trysorlys ar gyfer ei hoff dÅ· cyri," medda fo gan gyfeirio at yr hyn a alwodd yn "balti bail-out" fis Hydref diwethaf!

Mor wahanol i'r dyddiau cartrefol a dedwydd hynny yn Rhif Deg pan fyddai Harold Wilson yn anfon allan am frechdanau a chwrw i'w cael nhw drwy drafodaethau'r oriau mân.

Wedyn, echnos, cawsom wybod mai mynd allan am gyri wnaeth Carwyn Jones i ddathlu ei fuddugoliaeth ef.

Ac yng Nghymru hefyd go brin yr aiff wledd honno o gyri rai blynyddoedd yn ôl bellach yn fflat Helen Mary Jones, a'i dylanwad ar arweinyddiaeth Plaid Cymru, byth yn angof.

Heb amheuaeth mae hwn yn faes ymchwil lle gallai un o'r ymgynghorwyr gwleidyddol yna sydd mor niferus y dyddiau hyn wneud enw iddo'i hun.

Ella y byddai'n syniad iddyn nhw drafod y posibiliadau - dros bryd o gyri.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.