Cyrcs, cyrn a rhew
A ninnau wedi bod yn crafu rhew y bore oddi ar ffenestri ein ceir ddechrau'r wythnos doedd hi ddim yn syndod i'r wythnos ddod i'w therfyn gyda thrafodaeth ar y pwnc hwnnw ar 91Èȱ¬ Radio Cymru.
Ymadrodd a ddefnyddiwyd sawl gwaith y bore ma oedd "Rhewi'n gorcyn" i gyfleu pa mor ddrwg oedd hi.
Ymadrodd cwbl ddieithr a diystyr i rai ohonom sy'n llawer mwy cyfarwydd â "Rhewi'n gorn".
A hithau'n chwipio rhewi, y tir, llynnoedd a hyd yn oed afonydd wedi rhewi mor galed nes eu bod cyn galeted â chorn - a hithau wedi rhewi'n gorn.
Efallai mai ymadrodd sy'n perthyn i ardaloedd penodol ydi'r rhewi'n gorcyn y clywyd cymaint o'i ddefnyddio y bore 'ma. Byddai'n ddiddorol cael gwybod. Anfonwch air.
Beth bynnag am rewi'n gorcyn; ymadrodd cyffredin mewn sawl ardal ydi Rhwymo'n gorcyn - a'r unig feddyginiaeth i'r cyflwr anghyfforddus hwnnw fyddai "Dôs iawn o gastar oel".
Cyflwr, gyda llaw, arferai fod yn gyffredin iawn o gwmpas y Dolig fel hyn ddyddiau fu gyda gor ymborthi ar gnau yn cael y bai am ei achosi.
"Roeddwn i wedi rhwymo'n gorcyn ar ôl yr holl gnau yna!"
Ac mi rydan ni gyd yn gwybod pa mor dyn all corcyn fod yng ngwddw potel.
Aw, aw, aw.
SylwadauAnfon sylw
Yn yr un cywair, yn ddigon oer i rewi rhech