Stori amser gwely?
Gweld bod yna dipyn o ddyfalu y dyddiau hyn am gynnwys adroddiad Syr Emyr Jones-Parry yn dilyn trafodaethau Comisiwn Cymru Gyfan a gadeiriwyd ganddo Y cyfeiriodd fy nghyd-flogiwr Vaughan Roderick ato y dydd o'r blaen..
Wn i ddim sut dderbyniad fydd i'r adroddiad ond rwy'n gobeithio y bydd yr ymateb yn well na'r ymateb i anerchiad a draddodwyd dro'n ôl gan Syr Emyr.
Ef ei hun gyfaddefodd yn ystod darlith flynyddol Undeb Cymru a'r Byd a draddododd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala iddo anfon rheng o filwyr i gysgu!
"Fe fues i'n siarad mewn cinio i filwyr nodedig yn ddiweddar," meddai.
"Syrthiodd y rhes flaen i gysgu yn fuan iawn ac fe wnes i ofyn i'r cadeirydd ymyrryd.
"Dywedodd e; 'Chi wnaeth iddyn nhw gysgu, gallwch chi eu deffro'!"
Gobeithio nad llyfr amser gwely fydd yr adroddiad.