Gorddio'r Academi
Daeth yr Academi a'r hyn sy'n cael ei alw yn "elite Cymraeg" dan ordd golygydd papur bro o'r tu draw i Glawdd Offa yn ddiweddar.
Y Parchedig Dr D Ben Rees sy'n sgrifennu yn Yr Angor, y papur Cymraeg sy'n gwasanaethu ardal Lerpwl.
"Mae'n amlwg iawn i bawb ohonom sy'n cymryd diddordeb yn ein llenyddiaeth fod yr Academi a'r elite Cymraeg o feirniaid wedi penderfynu mai'r unig fath o lenyddiaeth sydd yn dderbyniol yn y Gymru gyfoes yw nofelau," meddai Mr Rees sy'n awdur ac yn gyhoeddwr ei hun yn ogystal â bod yn weinidog a fu'n gwasanaethu yn Lerpwl ers blynyddoedd lawer.
"Yn ôl y polisi presennol, ac mae'r polisi yma wedi bod mewn bodolaeth ers deng mlynedd ar hugain a mwy, ni fyddai gobaith gan Morgan Llwyd i gael gwobr am ei gampwaith Llyfr y tri Aderyn, ni fyddai Charles Edwards wedi cael ei wahodd i'r Gelli Gandryll i glywed y beirniaid yn doethinebu, na William Williams Pantycelyn, chwaith wedi cael gwahoddiad gyda'i lyfr Cyfarwyddwr Priodas, ac ni fyddai gobaith anrhydeddu yr athronwyr R I Aaron, J R Jones a Dewi Z Phillips am eu campweithiau hwythau," meddai.
Yn amlwg yn ddyn sydd wedi'i wylltio ychwanega: "Cafodd yr hyn a ellir ei alw yn 'grachlenyddiaeth' ormod lawer o sylw yn y cylchgronau fel Taliesin a Golwg."
Ac mae'n diffinio crachlenyddiaeth fel "cerddi concrid, nofelau di-gyswllt a gaiff eu galw yn nofelau arbrofol, y sothach na ellir gwneud pen â chynffon ohonynt."
Mae'n drueni ond dydi'r Dr Rees ddim yn mynd cyn belled ag enwi na llyfr nac awdur sothach ond mae'n amlwg i mi bod rhai o enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ymhlith y rhai a ddaw dan ei lach.
Cystadleuaeth y mae mwy nag un yn anhapus ynglŷn â'r ffordd y dewisir y llyfrau sy'n addas i'w hystyried ar ei chyfer gyda beirniaid ambell i flwyddyn yn ymwrthod â hunangofiannau er enghraifft ond rhai blwyddyn arall yn ystyried y rheini'n gymwys i redeg y ras.
A does dim amheuaeth mai cefn llaw i'r Academi trwy ensyniad yw cwyn Dr Rees oes gennym yng Nghymru "sefydliadau i gydnabod gwaith graenus" awduron y mae ef yn eu hystyried yn rhagorol.
Mae'n cau pen y mwdwl ar ei druth trwy enwi rhai o'r llyfrau dros y blynyddoedd sy'n cyrraedd ei safon; yn eu plith; Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis; Un Nos Ola Leuad, gan Caradog Prichard, O Law i law gan T Rowland Hughes, Cofiant O M Edwards gan W J Gruffydd, Edrych yn ôl gan R T Jenkins, Bywgraffiadur Cymreig, Cerddi Cyflawn R Williams Parry gan Alan Llwyd, Gwynfor gan Rhys Evans, Meistri'r Canrifoedd gan R Geraint Gruffydd a gweithiau T Llew Jones.
"Ni allwn adnabod ein hunain heb lenyddiaeth gwir bwysig fel ag a nodwyd," meddai gan awgrymu nad yw'r Academi na'r beirniaid elite yn hyrwyddo hynny.
Ydi o'n iawn? A pha lyfrau fyddech chi'n eu cynnwys ar restr oesol fel un D Ben Rees. Anfonwch air.