Rhagor o stwff Brown
Mae'r diwydiant Dan Brown mewn gêr unwaith eto gyda chyhoeddi nofel ddiweddaraf yr awdur ddydd Mawrth.
Dyma ei drydedd nofel am Robert Langdon yr Athro "symboleg crwefyddol" a ymddangosodd gyntaf yn Angels and Demons ac wedyn yn The Da Vinci Code - pedwaredd nofel Brown a'r nofel a sgubodd gyfoeth eitrhriadol i'w gyfeiriad.
Saethodd yn syth i frig rhestr gwerthwyr gorau'r New York Times wythnos ei chyhoeddi yn 2003 ac erbyn hyn mae'n cael ei gyfrif "y llyfr mwyaf poblogaidd erioed" wedi gwerthu 81 miliwn copi - gwerth 250 miliwn o ddoleri.
Ac wrth i werthiant ei lyfrau eraill gynyddu yn ei sgil cynyddodd cyfoeth Brown hefyd ac yn ôl y cyfrif diweddaraf mae'n awr yn ennill 76.5 miliwn o ddoleri'r flwyddyn!
Mae llwyddiant y nofel ddiweddaraf wedi ei sicrhau yn barod gyda The Lost Symbol wedi gwerthu, miliwn o gopiau y diwrnod cyntaf ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau a Chanda, rhyngddynt.
Y Seiri Rhyddion sy'n dod dan chwyddwydr Brown y tro hwn ond eisoes mae rhai wedi bod yn cwestiynu cywirdeb rhai o'r pethau a ddwedir yn y nofel.
Yn wir mae'n dipyn o gêm ymhlith y gwybodusion, dod o hyd i gamgymeriadau ffeithiol yn nofelau Brown.
Cyhoeddodd un o golofnwyr y Guardian restr hir o gamgymeriadau The Da Vinci Code ddydd Sadwrn diwethaf gan gynnwys y camsyniad ym meddwl Brown mai cyfenw ydi Da Vinci !
"Dangoswyd i Brown fod yn anghywir ynglŷn â gwrth-fater, Galileo, conclafau Pabyddol, sawl enw lle Rhufeinig ac ymadroddion Eidalaidd, yr Illuminati, Mair Magdalen, Swper Olaf Leonardo, yr ymherodr Constantine, Marchogion y Croesgadau, Priordy Seion, daearyddiaeth Paris a Llundain a hydred Glastonbury.
"A fu unrhyw awdur arall erioed mor anghywir ynglŷn â chymaint o bethau?" hola John Dugdale sydd yn mynd ymlaen i dynnu sylw at lithriadau eraill fel cael mynach o Opus Dei yn un o brif gymeriadau y Code er nad oes gan Opus Dei fynachod.
Mae'n cyfeirio at gamgymeriadau iaith a sillafu hyd yn oed gan gynnwys defnyddio 'reign' yn lle 'rein'.
Ond yr un peth y mae Brown yn ei gael yn gwbl iawn wrth gwrs yw - sut i sgrifennu llyfrau sy'n gwerthu! A llyfrau sy'n troi'n ffilmiau llwyddiannus wedyn.