Gair o'r Wladfa . . .
Rhyw gymysgedd o ramant a rhyfeddod sydd yn agwedd sawl un tuag at Batagonia.
Elfen o ramant yn sicr ymhlith y rhai hynny yr oedd llyfrau R Bryn Williams ymhlith y rhai oeddem yn eu daerllen yn ifanc.
Ac mae'n syndod ac yn rhywfaint o warth na wnaeth teledu Cymraeg fwy o lyfrau fel Bandit yr Andes a'r March Coch heb son am ei gyfrolau ffeithiol.
Fe wnaeth y radio.
Yn ddiweddar ma cyhoeddwyd dau lyfr arall sydd yn mynd i ail gynneu'r diddordeb yn Y Wladfa - un ohonynt yn ymwneud â phen symbylydd y syniad o greu dihangfa i'r Cymry gael byw eu bywyd eu hunain y tu allan i'w gwlad eu hunain, Michael D Jones.
Lleisiau rhai o'r bobl a wrandawodd arno sydd yn y llyfr arall Llythyrau'r Wladfa 1865 -1945- llyfr difyr sydd hefyd y tu draw o werthfawr gan Mari Emlyn.
Casgliad o ddarlithoedd gan rai o ysgolheigion amlycaf Cymry a geir yn Michael D. Jones a'i Wladfa Gymreig wedi'i olygu gan y Dr E. Wyn James a'r Dr Bill Jones, y ddau yn ddarlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd - y cyfan yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ar fywyd y Cymro tanbaid a rhyfeddol hwn.
Yn ei chyfrol hi cyhoeddi mae Mari Emlyn lythyrau personol rhwng Cymry a Gwladfawyr a hefyd lythyrau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd ond gyda nodiadau a rhagarweiniad gwerthfawr hefyd.
Doedd o ddim yn waith hawdd.
"Mi ges i dros 500 o lythyrau ar fenthyg i'w darllen," meddai.
Ond fel y dywed y maen nhw'n ddogfennau hanesyddol pwysig iawn yn ogystal a bod yn ddifyr.
"Yr unig ffordd oedd gan bobl Patagonia a Chymru o gadw mewn cysylltiad oedd trwy lythyr, ac mi oeddwn yn eu gweld yn gofnod archifol - mae yna hanes yn y llythyrau yma, ac mi fyddai'n bechod iddyn nhw fynd ar goll, " meddai.
Ac am y cynnwys dywed:
"Mae hiwmor yn beth prin yn y llythyrau cynnar a hynny'n adlewyrchu'r caledi oedden nhw'n 'i wynebu wrth geisio sefydlu gwladfa newydd - mae sôn am brofedigaethau a newyn.
"Roedd un llythyr dirdynnol iawn yn disgrifio mewn manylder lofruddiaeth Llwyd ab Iwan, sef mab Michael D. Jones, gafodd ei ladd gan ddau o wylliaid America. Roedd y bachgen ifanc hwn oedd yn ysgrifennu at ei rieni adref yng Nghapel Garmon yn dyst i'r llofruddiaeth, ac yn ei disgrifio fel golygfa erchyll o ffilm gowboi.
"Mae 'na lythyr diddorol hefyd, un o'r rhai cynharaf un, a ysgrifennwyd gan ddyn o'r enw William Jones o'r Bala sy'n cyfeirio at y ffaith iddo golli ei ddwy ferch fach - un wedi iddyn nhw gyrraedd Porth Madryn a'r llall ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, a sut na fyddai byth wedi gadael y Bala pe byddai'n gwybod am y caledi oedd yn eu hwynebu."
Casgliad o lythyrau sydd ar restr ddarllen sawl un ohonom.
Gwasg Carreg Gwalch ydi'r cyhoeddwr - a'r cymwynaswr!