Goleuo darllenwyr
Efallai eich bod chwithau yn un o gymwynaswyr yr amgylchedd, yn genhadwr eich cynefin, a'ch ôl troed ond yn seis un neu ddau.
Ac, ymhlith pethau eraill, yn ail ddefnyddio hen amlenni i anfon pethau drwy'r post.
Ond byddwch ofalus - efallai eich bod yn achosi costau a chur pen i rywun!
Neges i'r darllenwyr ar yr union bwnc yn rhifyn yr wythnos hon o'r Goleuad, newyddiadur y Presbyteriaid:
"Pwysig," gwaedda nerth esgyrn ei brint:
"A fyddai'r rhai ohonoch sy'n derbyn Y Goleuad drwy'r post gystal â pheidio ag ail ddefnyddio'r amlenni os gwelwch yn dda, neu sicrhau eich bod yn gorchuddio enw a chyfeiriad Gwasg y Bwthyn gan gynnwys stampiau digonol.
"Yn aml iawn mae Gwasg y Bwthyn yn derbyn llythyrau wedi eu cyfeirio at eraill, a hefyd yn gorfod talu ffi ychwanegol am eu derbyn am nad oes digon o stampiau arnynt - sylwer fod angen stampiau 'llythyr mawr'! Diolch.
Ni ellir ond diolch i'r Goleuad - am ein goleuo. Gyda'r bylbiau cywir gobeithio.