Cewri'n gwrthdaro
Mae'r darlun o Waldo Williams yn y gyfrol ddiweddaraf i'w chyhoeddi am D J Williams, Y Cawr o Rydcymerau, yn un "anghyflawn ac annheg" yn ôl golygydd oedd yn adnabod y ddau.
Heb os, y mae'r disgrifiadau o'r berthynas rhwng y ddau genedlaetholwr mawr yn un o'r pethau mwyaf diddorol yn y gyfrol gan Emyr Hywel a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Gyda dyfyniadau o ddyddiaduron D J Williams mae Emyr Hywel yn dangos sut yr oedd 'DJ' yn anobeithio ynglŷn â'r hyn a eilw'n aneffeithiolrwydd Waldo fel ymgyrchydd yn ystod Etholiad Cyffredinol 1959.
"Teimlo nad yw Waldo yn manteisio'n ddigonol ar bob cyfle yn y Wasg a ffurfio pwyllgorau, i beri i bobl weithio a dadlau eu hunain ar bethau, yr wyf i," meddai DJ yn un lle.
"Siomedig o glywed Waldo'n sôn am fynd draw i Iwerddon dros yr haf yma i ddysgu Gwyddeleg, y gŵyr lawer ohoni yn barod - a chymaint o'i angen yn Sir Benfro i gynnal cyrddau ac agor llygaid y bobl," meddai dro arall.
Mae hyd yn oed yn feirniadol o safiad hyd at garchar Waldo yn erbyn gorfodaeth filwrol:
"Mae lle i ddadlau mai dihangfa rhag gwneud gwaith ymarferol o ddydd i ddydd dros achos Cymru yw mynd i garchar am ychydig fisoedd yn awr ac eilwaith fel protest yn erbyn gorfodaeth filwrol. Mae diogelwch yno dros dro, ac nid yw mor galed â hynny," meddai.
Ond yn ôl Emyr Llywelyn sy'n dyfynnu'r sylwadau hyn a rhai eraill tebyg yn y cylchgrawn y mae'n ei olygu, , "nid yw'r darlun a roddir gan D.J. o Waldo yn rhoi'r darlun cyflawn a'r gwirionedd am Waldo."
Ychwanega: "Gwn fod darlun D.J. o Waldo fel dyn aneffeithiol ac anymarferol yn wir, ac eto mae'n ddarlun hollol unochrog ac anghyflawn ac annheg.
"Efallai mai Waldo oedd y cenhadwr gwleidyddol mwyaf aneffeithiol a fu erioed, ond gwn mai ef oedd y dyn mwyaf i mi ei gyfarfod erioed, am fod ganddo'r peth hwnnw sydd yn dylanwadu fwy na'r un dadl na phamffled sef purdeb calon - y purdeb hwnnw sydd uwchlaw gweithgarwch a ffyddlondeb i blaid neu fudiad," meddai.
Mae Emyr Llywelyn yn datgelu hefyd sut y bu iddo yntau ennyn llid D J Williams am fynnu diwrnod yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 1964 i gofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Roedd D. J. Yn ddig iawn, iawn am hyn ac yn anfodlon i mi fynd i gofrestru a cholli diwrnod o waith etholiad . . . roedd D. J. yn dadlau'n ffyrnig na ddylwn golli diwrnod o ymgyrchu etholiadol hyd yn oed pe collwn flwyddyn o goleg oherwydd hynny. Bu'n rhaid i mi ffawdheglu i Aber ac yn ôl mewn diwrnod, ac ni faddeuodd D.J. i mi am fynd," meddai.
Tybed beth fydd eraill oedd yn adnabod y ddau yn ei wneud o hyn oll.
- Adolygiad John Stevenson o D J Williams - Y Cawr o Rydcymerau