Cadw'r 'Llais' yn fyw
Os oes rhywun yn profi gwirionedd y dywediad nad ydi hi byth yn rhy hwyr i gychwyn gyrfa i chi'ch hun y baledwr Bob Roberts Tai'r Felin yw hwnnw.
Yr oedd o dros ei drigain oed pan ddaeth yn fuddugol ar gystadleuaeth y gân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931 ac yn tynnu at ei 75 pan ddechreuodd ddarlledu ar y radio.
A darlledwr poblogaidd oedd o hefyd ar raglenni fel y Noson Lawen wedi i Sam Jones ei 'ddarganfod'.
Yr oedd yr un sbonc i'w chlywed yn ei lais ag oedd yna i'w gweld yn ei gerddediad a'i jig o ddawns ar y llwyfan.
Nodwedd arbennig o'i ganu oedd ei hwyliogrwydd wrth droi caneuon fel Moliannwn, Mari Fach fy Nghariad, Nacw a'r Asyn a Fu Farw (wrth gario glo i'r Fflint) yn glasuron poblogaidd o'u bath.
Bu dynwaredwyr wrth gwrs ond dim ond un Bob Tai'r Felin oedd yna ac yntau yn un o 'Dri Bob' darlith enwog Robin Williams - Bob Roberts, Llwyd o'r Bryn a Bob Owen Croesor y ddau arall o'r drindod ryfeddol honno.
Yr hyn ddaeth â Bob Tai'r Felin i gof yn awr yw'r newyddion fod newydd gyhoeddi CD o'i ganeuon gyda chyfraniadau hefyd gan ei fab, Morus Roberts a dau faledwr arall, John Thomas Maesyfedw ac Arthur D Jones.
Tybed beth fyddai Bob Roberts ei hun wedi ei wneud o hynny achos roedd yna yn ôl y rhai sy'n cofio elfen o gythraul canu cyfeillgar rhwng y baledwyr wrth iddyn nhw geisio cael y gorau ar ei gilydd pan yn ymddangos yn yr un cyngerdd!
Clywais ddweud y byddai'r hirben Sam Jones yn gwneud yn siŵr mai un neu'r llall ar y tro fyddai ar Noson Lawen y radio!
Er mai yn ei henaint y daeth Bob Roberts - melinydd wrth ei alwedigaeth - i amlygrwydd cenedlaethol gallai pethau fod wedi bod yn wahanol achos yn fachgen yr oedd ganddo lais soprao nodedig iawn yn ôl darn gan y diweddar Robin Williams a gyhoeddir gyda'r CD.
"Yn fachgen pymthengmlwydd cystadlodd yn y Bala ar Unawd Soprano gan drechu'r genethod hyd yn oed.
"Wedi'i lethu'n lân gan y Llais, awgrymodd beirniad y noson y dylid casglu cronfa er mwyn i'r llencyn sefyll yn y man ar lwyfannau'r byd," meddai.
Ond fel ag yn achos sawl canwr arall o Gymro gartref y dewisodd Bob aros "a chanu'n ôl ei ffansi" yn lleol.
A chyda'r penderfyniad yna tybed a gollodd y byd enw y gellid ei ychwanegu heddiw at rai David Lloyd, Geraint Evans, Stuart Burrows a Bryn Terfel.
Ar y llaw arall, tybed, hefyd, pe byddai hynny wedi digwydd a fyddem ninnau wedi colli ei ddehongliadau unigryw o Nacw, Mari Fach fy Nghariad a'r Asyn anffodus hwnnw a fu farw "trwy 'ddo golli'i wynt" wrth helcid yr holl lo yna i'r Fflint?
Diolch i Sain am gynnau atgofion ymhlith yr hynaf ohonom a chyflwyno i'r genhedlaeth iau ganwr y byddwn yn dathlu 140 mlynedd ei eni y flwyddyn nesaf . . .
Mae dau o draciau'r CD yn rhai nas clywyd erioed o'r blaen gan mai wyres Bob o Chwilog ddaeth o hyd i hen recordiau ei thaid yn ei chartref ym Mhen LlÅ·n gan fynd ati i holi Sain am gopi CD personol i'r teulu.
"Pan welson ni'r recordiau a thrafod gyda'r teulu, roedden ni'n teimlo braint fawr o gael perfformiadau mor werthfawr yn ein dwylo. Dyma benderfynu felly mynd ati i baratoi cryno ddisg newydd," meddai Dafydd Iwan o Sain.
A Bob Tai'r Felin, yntau. yma o hyd diolch i'r drefn.