91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llyfr y Flwyddyn - llyfr 'snobs' i ennill?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:17, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Nos Lun nesaf yw noson gwobrwyo Petrograd yn Llyfr y Flwyddyn mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Dyna'r farn sawl darllenydd, beth bynnag - mai Petrograd gaiff yr anrhydedd a hynny, fel y dywedodd Vaughan Hughes ar rifyn o'r Sioe Gelf, Mehefin 10, oherwydd bod "pob beirniad yn snob".

Yn ei farn ef Teulu Lòrd Bach ddylai fynd a hi.

Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan, dau o'r beirniaid

Yr oedd Vaughan a dau arall, Bethan Gwanas a Lyn Lewis Dafis ( y blogiwr ) yn trafod ar y rhaglen deledu Sioe Gelf ar y tri llyfr a osodwyd ar y rhestr fer gan y tri beirniad, Luned Emyr, Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan.

Disgrifiodd Vaughan Hughes ei hoff lyfr ef o'r tri, Teulu Lòrd Bach gan Geraint V Jones, fel un sy'n ffitio'r hen ddisgrifiad o'r News of the World - "All human life is there".

Ond cwynodd Lyn Lewis Dafis am "dduwch" gormodol y nofel honno er iddo gyfaddef iddo fethu â'i rhoi i lawr. Dywedodd Bethan Gwanas na allai feddwl am neb na fyddai'n mwynhau hon.

Ond tybiai hithau hefyd mai Petrograd gan William Owen Roberts fyddai'n mynd a hi a hithau'n "darllen fel rhuban".

I Vaughan, fodd bynnag, yr oedd Petrograd yn "feichus" a'r lleng cymeriadau yn ddryslyd.

Ysgrifennu da ond stori nad oedd yn cydio oedd barn Lyn Lewis Dafis a ddywedodd mai Pentigily gan Hefin Wyn fyddai o'n ei wobrwyo.
Ychwanegodd ei fod yn "ffaelu credu fod beirniaid yn medru gwneud peth mor ddoeth" a'i chynnwys ar y rhestr fer!

Os oedd lluosogrwydd cymeriadau Petrograd yn llethu Vaughan Hughes geiriau tafodiaethol Pentigily lethodd Bethan Gwanas a chytunodd Vaughan Hughes fod peryg i hynny ddigalonni darllenwyr.

A'r blogiwr hwn?
Tueddu, fel Vaughan Hughes, i gredu mai Petrograd fydd fuddugol am ei bod yn ffitio rhyw ddelwedd ffasiynol yn well na'r ddwy arall a'r pwysau mawr sydd wedi bod yn cael ei roi ar y ffaith nad oes dim byd Cymreig ynglyn â hi fel pe byddai hynny ynddo'i hun yn rhinwedd.

Cawn weld nos Lun pa mor fuan fydd hi'n ddiogel i Gwyn Thomas ymweld â'i gynefin ym Mlaenau Ffestiniog eto.

Yn y cyfamser i bwy fyddech chi'n rhoi'r deng mil o bunnau o wobr - i un o'r tri ynteu llyfr arall cwbl wahanol? Anfonwch air.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.