Dewis pump - un o bob noson!
91Èȱ¬ Canwr y Byd Caerdydd - bore Gwener
Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Rwy'n siwr nad oedd hyn yn ystyriaeth o gwbl gan feirniaid 91Èȱ¬ Canwr y Byd Caerdydd 2009, ond ni ellid bod wedi dewis gwell cyfuniad o ddoniau disglaer ar gyfer y noson derfynol, nos Sul. Bydd pobl yn talu arian da i wrando ar unrhyw un o'r rhain ymhen ychydig flynyddoedd.
Neithiwr, cyhoeddwyd enwau'r pump:
- Yurly Mynenko, yr uwchdenor 30 oed o'r Wcráin;
- Eri Nakamura y soprano 31 oed o Siapan;
- Giordano Lucà , y tenor 21oed o'r Eidal;
- Ekaterina Shcherbachenko, soprano 32 oed o Rwsia a
- Jan Martinik, y baswr 26 oed o'r Weriniaeth Tsiec.
Er nad dyletswydd y beirniaid yw dewis cydbwysedd i blesio cynulleidfa, hynny wnaed a chlywais i neb yn cwyno. Cawn edrych ymlaen am noson o amrywiaeth lleisiau yn ogystal â disgleirdeb dawn.
Ac wrth i Giordano Lucà gipio gwobr y noson neithiwr, cawn weld am y tro cyntaf ers cychwyn y gystadleuaeth ym 1983 enillydd pob rownd ar y llwyfan terfynol. Dyna fu'r drefn y tro cyntaf ond wedi hynny dewiswyd y pump gorau i'r ffeinal ac ni fu'n anarferol cael mwy nag un o ambell noson a neb o noson arall ar y brig.
Dyma'r tro cyntaf i mi gofio i enillydd pob rownd fynd trwodd - a hynny yn gwbl deg a chywir.
Yr ieuengaf un
Gair yn awr am gystadleuaeth neithiwr. Fe'i henillwyd gan y tenor o'r Eidal, Giordano Lucà , yr ieuengaf yn yr holl gystadleuaeth.
Dyma wir artist, cerddor mor reddfol fel y mae canu mor naturiol a diymdrech iddo ag anadlu. Mae ei lais yn odidog, llais swynol gyda'r amrywiaeth i ganu unrhyw beth. Yr un dechneg y gall ei datblygu yw dyfnder ei gymeriadu, rhywbeth a ddaw yn anochel gydag amser a phrofiad.
Canodd bum aria; tair oedd y nifer a ganwyd gan y mwyafrif, ambell un yn canu pedair. Canodd ddau ddarn o waith Verdi, un o Rigoletto a'r llall o I Lombardi alla Prima Crociata; cân enwog Puccini o La Bohème - Che gelida manina; y gân o'r opera Werther gan Massenet lle mae'r bardd yn canu ei gyfieithad o un o gerddi Osian i'w hen gariad.
Ei ddewis arall oedd aria allan o'r opera L'Arlesiana (Y Ddynes o Arles) gan Cilea - stori wir a saernïwyd yn stori fer a wedyn yn ddrama gan Alphonse Daudet gan ysbrydoli cyfansoddwyr, Cilea yn eu plith, wedi hynny.
Roedd neithiwr eto'n noson gyfoethog a difyr ei doniau. Y canwr cyntaf oedd Wade Kernot o Seland Newydd, baswr gyda llais bendigedig ar y nodau uwch er heb fod cystal ar y nodau isaf oll.
Cychwynnodd gydag Aria Gremin allan o Eugene Onegin gan Tchaikovsky. Wedyn canodd y gân o opera Mozart lle mae gwas Don Giovanni yn rhestri'r merched a hudwyd gan ei feistr. Roedd y gynulleidfa - y rhai oedd yn ddigon agos i weld - wrth eu boddau mai rhaglen Canwr y Byd oedd yn ei law wrth iddo gymryd arno restru campau rhywiol y Don!
Clywsom Helen Kearns o Iwerddon yn canu Weber, Donizetti a Stravinsky, y gyntaf a'r olaf yn ganeuon na chanwyd gan neb arall. Roedd Cân yr Eos gan Stravinsky yn brawf ar ei thechneg ond llwyddodd yn ardderchog.
Mae hi'n gantores swynol a phleserus i wrando arni.
Mae Marc Canturri o Andorra'n ganwr a pherfformiwr dymunol, bariton lled ysgafn a cherddor da. Canodd weithiau gan Gounod, Mozart, Korngold a Donizetti ond heb lwyddo i greu cymaint â hynny o argraff ar y gynulleidfa.
Yr olaf i ganu oedd y soprano Dora Rodrigues o Bortiwgal. Mae hon yn gerddor cyflawn, llais godidog, di-ymdrech yn llifo trosom. Dyma oedd perfformiad oedd fel pe'n un â'r gerddorfa - nid cyfeiliant iddi oedd y gerddorfa ond rhan ohoni.
Dewisodd alawon allan o Faust Gounod, La Bohème Puccini a Giuditta Lehar.
Teimlwn mor drist na fydd hi ymhlith y goreuon yn y ddwy gystadleuaeth a hithau wedi rhoi cystal cyfri ohoni ei hun ddwywaith.
Gyda'i gilydd
Un o nodweddion dymunol 91Èȱ¬ Canwr y Byd Caerdydd yw bod yr holl gystadleuwyr yn ymddangos ar y llwyfan gyda'i gilydd ar ddiwedd yr olaf o'r rowndiau a phob un yn derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa a rhodd bersonol gan Menna Richards, Rheolwr 91Èȱ¬ Cymru.
Gwn fod cyfeillgarwch wedi ei gynnau rhwng y cantorion hyn fydd yn parhau am flynyddoedd a bu hyn yn nod a nodwedd o'r gystadleuaeth o'i chychwyn.
Yn y dyfodol bydd llawer ohonyn nhw'n cwrdd eto fel aelodau o'r un tîm wrth berfformio mewn operau ledled y byd ac er bod rhai'n mynd o Gymru heb ennill yr un wobr cawsant brofiad a chyfeillgarwch fydd yn amhrisiadwy iddynt yn y dyfodol. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.
Ond yn awr ymlaen at heno, a chystadleuaeth y Datganiad. A'n dymuniadau gorau i'r Gymraes Natalya Romaniw!.
- Gwefan Canwr y Byd Caerdydd 2009
Ydych chi wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth? Pwy ydych chi'n feddwl fydd fuddugol?