Pledu'r blogwyr
Un sy'n debyg o gael cryn fwynhad o'r ffilm newydd State of Play fydd yn y pictiwrs ddydd Gwener ydi Menna Elfyn.
Does gan brif gymeriad y ffilm, a chwaraeir gan Russell Crowe, fawr o amser ar gyfer blogwyr. Yr un modd, Menna, yn ôl ei cholofn wythnosol yn y Western Mail Ebrill 15. "Blogio. Gas gen i'r blogiaduraeth sy'n prysur ddisodli newyddiaduraeth," medda hi.
"Dylid ei alw'n 'blagaduraeth' am mai plagio pobl yn aml a wna," meddai wedyn gan godi'r ofn "y bydd ein byd amrantaidd yn dileu'r angen am newyddiadurwyr praff a gofalus." Hawdd ddeall sut y gallai peth mor anghymen â blogio fod yn dân ar groen Menna Elfyn y bardd. Ond anos deall sut mae'n destun cymaint o boen i Menna Elfyn y golofnwraig bapur newydd wythnosol.
Yn enwedig o gofio mai brawd bach y golofn bapur newydd ydi'r blog mewn gwirionedd - a hithau ei hun awdur un o'r rheini ac wedi gorfod ildio i'w llenwi ambell i wythnos, fel sawl un ohonom, gydag ambell i eitem "ffwrdd-a-hi er mwyn llanw'r gofod" chwedl hithau!
Adolygiad State of Play