Pan daflodd Hutt ei het . . .
O glywed i Jane Hutt daflu ei het hithau ymhlith yr hetiau eraill sy'n debyg o fod yn ymgiprys am swydd Rhodri Morgan pan fydd yn ymddeol fel Prif Weinidog fe drodd fy meddyliau yn syth at Hywel Dda a'i gyfreithiau.
Gydag ef, ŵyr Rhodri Mawr, y "cysylltir cyfraith gynhenid Cymru'r Oesoedd Canol" yng ngeiriau'r Gwyddoniadur.
Ac yr oedd yr hen gyfreithiau wedi gosod i lawr yn drefnus iawn sut y dylai'r hen Gymry ddewis arweinydd newydd.
Mae'r drefn honno yn cael ei disgrifio gan yr hanesydd Syr John E Lloyd mewn rhagymadrodd i lyfryn difyr iawn gan Stephen J Williams, Detholion o'r Hen Gyfreithiau Cymreig a gyhoeddwyd ym 1938 (pris - swllt) - ac yr oedd yn drefn a allai arbed llawer iawn o drafferth i arweinwyr a gwerin gwlad heddiw!
"Yn y lle cyntaf yr oedd yn rhaid i'r . . . .gŵr a oedd i deyrnasu ar . . . ôl [tywysog] fod yn wastad wrth ei ymyl," meddai.
"Nid oedd yr hen Gymry yn fodlon i'r cwestiwn yma gael ei benderfynu drwy bleidlais ar ôl marw'r tywysog. Yr oedd yn rhaid dewis yr aer ymlaen llaw, a sicrhau, felly, pe digwyddai i'r llwyth golli ei arglwydd drwy ryw anffawd, fod olynydd iddo yn y llys, yn barod i gymryd yr awenau yn ei law yn ddiymdroi."
Gosodai'r hen gyfreithiau hyn hefyd werth ar arweinydd ac os yr ydw i - sydd ddim yn gyfreithiwr - yn iawn gwerth "brenin" oedd yr isod deirgwaith drosodd:
"Can buwch ar gyfer pob cartref o'r arglwyddiaeth; gwialen arian cyhyd ag o'r llawr hyd yng ngenau'r brenin pan eisteddo yn ei gadair; a chyn frased a'i hirfys, a thri ban arni a thri dani cyn frased â'r wialen; a ffiol aur y cynhwysid llawn ddiod y brenion ynddi, a chlawr arni cyfled ag wyneb y brenin; cyn dewed fydd y ffiol a'r clawr ag ewin amaeth a amaetho saith mlynedd, neu blisgyn wy gŵydd."
Dyna, ymddengys y ddiryw am sarhau brenin - ac mae'n ddiddorol sylwi mai'r tri pheth cyntaf a gyfrifid yn sarhad oedd;
- Yn gyntaf lladd un o'i ddynion.
- Yn ail, lladd dyn yng ngŵydd dau frenin yn dod ynghyd i wneuthur cytundeb.
- A dim ond yn drydydd, coeliwch neu beidio; "camarfer" gwraig y brenin!