91热爆

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio strategaethau meddwl i adio a thynnu rhifau 2 ddigid.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • un gweithgaredd

Learning focus

Learn how to use mental strategies to add and subtract 2 digit numbers.

This lesson includes:

  • one video
  • one activity
Llinell / Line

Fideo / Video

Beth am ddod am dro i mewn i ymennydd Albert i ddarganfod sut i wneud mathemateg y pen?

Nodiadau i rieni

  • Mae鈥檔 haws adio grwpiau cyfan o ddegau, felly wrth edrych ar 20 + 56, anghofia am y 6 (am y tro!).
  • Gallet adio 20 a 50 i wneud 70.
  • Yna, dere 芒'r 6 yn 么l a鈥檌 adio i鈥檙 cyfanswm, 70 + 6 yw 76.
  • Gallwn ddefnyddio鈥檙 un strategaeth i dynnu. Wrth edrych ar 46 - 8, rhaid troi鈥檙 8 yn 10 gan adio 2. Cadwa'r 2 yn ddiogel am y tro!
  • Felly mae 46 - 10 yn gwneud 36. Yna, dere 芒'r 2 yn 么l a鈥檌 adio i wneud 38.
  • Gallet hefyd dynnu wrth gyfrif ymlaen o鈥檙 rhif lleiaf i鈥檙 rhif mwyaf. Yn y swm 30 - 27, rydym yn cyfrif ymlaen o 27 (rhif lleiaf) nes ein bod yn cyrraedd 30 (rhif mwyaf), sef 3 (28,29,30). Felly'r ateb yw 3.

Notes for parents

  • It鈥檚 easier to add whole groups of ten. So when we look at 20 + 56, we must forget about the 6 (for the time being!).
  • You can now add 20 + 50 to make 70.
  • Now, bring back the 6 and add it to the total, making 76.
  • We can use the same strategy to subtract. If we look at 46 - 8, we must first make the 8 a 10 by adding 2. Keep the 2 safe for the time being.
  • So we now have 46 - 10 which is 36. Now bring back the 2 and add it to the total to make 38.
  • You can also subtract by counting forward from the smallest number to largest number. In the sum 30 - 27, count forward from 27 (smallest number) until you reach 30 (largest number) which is 3 (28,29,30). So the answer is 3.
Llinell / Line
Celloedd yr ymenydd yn edrych ar hafaliad tri deg chwech adio deg yw pedwar deg chwech a phedwar deg chwech tynnu un yw pedwar deg pump.
Image caption,
36 + 9 = 45

Talgrynnu rhifau

Mae talgrynnu rhifau i鈥檙 1, 10 neu 100 agosaf yn gallu helpu gyda llawer o broblemau mathemateg pen.

  • I adio 9 at rif arall, adia 10 ac wedyn tynnu 1:
    36 + 9 = 36 + 10 - 1 = 45
  • I adio 18 at rif arall, adia 20 ac wedyn tynnu 2:
    48 + 18 = 48 + 20 - 2 = 66
  • I adio 97 at rif arall, adia 100 ac wedyn tynnu 3:
    439 + 97 = 439 + 100 - 3 = 536
  • I adio 0.9 at rif arall, adia 1 ac wedyn tynnu 0.1:
    3.7 + 0.9 = 3.7 + 1 - 0.1 = 4.6
Celloedd yr ymenydd yn edrych ar hafaliad tri deg chwech adio deg yw pedwar deg chwech a phedwar deg chwech tynnu un yw pedwar deg pump.
Image caption,
36 + 9 = 45

Datod rhifau

Mae datod rhifau鈥檔 gallu dy helpu i adio neu dynnu yn dy ben. Er enghraifft, i ganfod y gwahaniaeth rhwng 38 a 63.

  • Rhifa ymlaen o 38 i 40 a chadw鈥檙 2 yna yn dy ben.
  • Nawr rhifa ymlaen o 40 i 60, sy鈥檔 rhoi 20.
  • Yn olaf, rhifa o 60 i 63, sy鈥檔 rhoi 3.
  • Adia nhw at ei gilydd: 2 + 20 + 3 = 25.
Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Gwna鈥檙 symiau adio isod yn dy ben.

Make the addition sums below in your head.

Hafan 91热爆 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91热爆 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU