91ȱ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Dysgu am y pum peth mae pob peth byw yn ei wneud

Lesson content

  • Learn about the five things that all living things do
Llinell / Line

Mae pethau byw i gyd yn Tyfu, Atgenhedlu, Symud, angen Maeth, ac yn Sensitif.

Dyma frawddeg dda i dy helpu di i gofio'r geiriau:

Triodd yr anifail sgrialu a methu stopio.

Tyfu - T - Triodd

  • Cynyddu mewn maint ydy tyfu. Twf ydy'r broses o dyfu.
  • Mae anifeiliaid bach yn tyfu ac yn dod yn oedolion.
  • Mae eginblanhigion yn tyfu'n blanhigion aeddfed, mwy.

Atgenhedlu - A - yr Anifail

  • Mae anifeiliaid a phlanhigion yn creu anifeiliaid a phlanhigion newydd sy'n debyg i'w rhieni.

Symud - S - Sgrialu

  • Mae anifeiliaid yn symud mewn sawl gwahanol ffordd.
  • Mae planhigion yn gallu symud eu dail er mwyn amsugno goleuni'r haul.

Maethiad - M - a Methu

  • Mae planhigion yn gwneud eu bwyd eu hunain o ddeunyddiau crai syml.
  • Dydy anifeiliaid ddim yn gwneud eu bwyd eu hunain. Maen nhw'n bwyta planhigion neu anifeiliaid eraill.

Sensitifrwydd - S - Stopio

  • Mae anifeiliaid a phlanhigion yn gwybod am y ffordd mae eu hamgylchedd yn newid ac maen nhw'n ymateb i hynny.

Cofia

Gallu gwneud pob un o'r rhain ydy beth sy'n gwneud pethau yn organebau byw.

Hafan 91ȱ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91ȱ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU